Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhybudd i heddwas arall yn achos marwolaeth Mohamud Hassan
Mae chweched heddwas bellach yn destun ymchwiliad ar 么l i ddyn farw oriau wedi iddo gael ei ryddhau o'r ddalfa.
Mae'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i gyswllt yr heddlu 芒 Mohamud Mohammed Hassan, 24 oed o Gaerdydd.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch, a'i ryddhau'n ddiweddarach ar 9 Ionawr heb gyhuddiad.
Bu farw'r noson honno.
Mae'r rhybudd camymddwyn diweddaraf yn erbyn sarjant dalfa Heddlu De Cymru.
Mae'n ymwneud ag ansawdd yr asesiad risg a gynhaliwyd ar Mr Hassan pan oedd yn y ddalfa, meddai'r IOPC mewn datganiad.
Dywedodd nad oedd rhybudd camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw drosedd, ond ei fod i hysbysu swyddog bod ei ymddygiad yn destun ymchwiliad.
Beth ydy'r hysbysiadau eraill?
Yn flaenorol, mae'r corff wedi cyflwyno hysbysiadau i bedwar swyddog Heddlu De Cymru a swyddog dalfa.
Mae tri o'r hysbysiadau blaenorol yn ymwneud 芒 phan oedd Mr Hassan yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd.
Mae dau yn ymwneud 芒 gweithredoedd swyddogion a aeth i gyfeiriad ar Ffordd Casnewydd ar y noson y cafodd Mr Hassan ei arestio.
Os y bydd canfyddiad bod swyddog wedi torri safonau proffesiynol ar lefel camymddwyn difrifol gellir ei ddiswyddo, ac ar lefel camymddwyn gallant dderbyn rhybudd ysgrifenedig.
Ymunodd cannoedd o bobl mewn gorymdaith brotest trwy Gaerdydd ar 么l marwolaeth Mr Hassan.
Mae Heddlu De Cymru eisoes wedi dweud eu bod wedi darparu gwybodaeth a deunydd i'r IOPC, gan gynnwys lluniau teledu cylch cyfyng a fideo wedi'i wisgo ar y corff.
Methodd archwiliad post-mortem 芒 sefydlu achos marwolaeth Mr Hassan, clywodd cwest i'w farwolaeth.