大象传媒

Etholiad 2021: 'Mandad' gan Lafur i lywodraethu medd Adam Price

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma oedd etholiad datganoledig cyntaf Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru

Mae Adam Price wedi llongyfarch Mark Drakeford ar "sicrhau mandad" i arwain llywodraeth nesaf Cymru, gan ychwanegu ei fod yn "siomedig" yng nghanlyniadau Plaid Cymru.

Yn ei etholiad cyntaf yn y Senedd fel arweinydd Plaid Cymru, enillodd y blaid un sedd ychwanegol i gyrraedd 13, ond llithrodd yn 么l i'r trydydd safle y tu 么l i Lafur a'r Ceidwadwyr.

Gyda Llafur yn dal hanner y seddi, mae'r dyfalu cyn yr etholiad am glymblaid bosib rhwng Llafur a Phlaid Cymru bron wedi diflannu.

Dywedodd Mr Price, yn ei sylwadau cyhoeddus cyntaf ers cyhoeddi'r canlyniadau terfynol, ei fod eisiau "llongyfarch Mark Drakeford ar sicrhau mandad i arwain llywodraeth nesaf Cymru".

'Adeiladu'r achos am annibyniaeth'

"Er y siom o beidio dychwelyd mwy o Aelodau i'r Senedd, rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi cynnal ymgyrch mor bositif yn seiliedig ar weledigaeth drawsnewidiol," meddai.

"Bydd ein gr诺p Seneddol yn dod ag egni o'r newydd a syniadau blaengar, ac rwy'n edrych ymlaen i weithio gyda fy nghyd-aelodau wrth i ni barhau i adeiladu'r achos o blaid annibyniaeth.

"Byddwn yn wrthblaid adeiladol ond yn craffu'n ofalus wrth i'r adferiad 么l-Covid fynd rhagddo."

Talodd deyrnged i'w ragflaenydd Leanne Wood, a gollodd ei sedd yn Rhondda i Lafur, gan ddweud y "bydd y chweched Senedd yn dlotach heb un o wleidyddion disgleiriaf Cymru".

Bydd saith wyneb newydd yng ngr诺p y blaid yn y Senedd: Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd), Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin), Sioned Williams (Gorllewin De), Luke Fletcher (Gorllewin De), Rhys ab Owen (Canol De), Heledd Fychan (Canol De), Peredur Griffiths (Dwyrain De).

Hefyd gan y 大象传媒