Cyfnod ynysu disgyblion Glan Clwyd ar ben yn gynt na'r disgwyl
- Cyhoeddwyd
Mae disgyblion ysgol uwchradd yn Llanelwy'n cael dychwelyd i'r dosbarth yn gynt na'r disgwyl wedi cyfnod o hunan-ynysu rhag coronafeirws.
Cafodd 249 o ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd, o flwyddyn 10 yn bennaf, orchymyn yn wreiddiol i ynysu tan ddydd Llun, 17 Mai wedi i ganlyniad Covid-19 positif gael ei gofnodi dros y penwythnos.
Maen nhw bellach yn cael dychwelyd i'r ysgol am wersi wyneb yn wyneb ddydd Mercher, 12 Mai wedi i brawf pellach ddod yn 么l yn negyddol.
Mae'r penderfyniad yn dilyn cydweithio rhwng yr ysgol, Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaeth olrhain y GIG.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor eu bod "bellach yn fodlon nad yw'r myfyrwyr y gofynnwyd iddynt ynysu, wedi bod yn agored i'r feirws yn yr ysgol ac mae'n ddiogel iddynt ddychwelyd i weithgareddau arferol".
Ond mae gofyn i rieni a gwarcheidwaid "barhau'n effro i brif symptomau" coronafeirws.
Mae yna gyngor hefyd i'r rhai fu'n hunan-ynysu archebu prawf os ydyn nhw'n datblygu peswch newydd neu barhaus, tymheredd uchel, neu'n cael unrhyw newid i'r arogl neu'r blas.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021