Mark Drakeford i ddewis ei gabinet wedi'r etholiad

  • Awdur, James Williams
  • Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 大象传媒 Cymru

Mae disgwyl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford ad-drefnu ei d卯m gweinidogol yn ddiweddarach ddydd Iau.

Daw ar 么l i aelodau'r Senedd gadarnhau mai Mr Drakeford fydd yn parhau i arwain Llywodraeth Cymru.

Mae angen gweinidog addysg newydd ar 么l i'r un blaenorol, y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams, sefyll lawr cyn yr etholiad.

Mae'n bosib y bydd hefyd eilydd ar gyfer yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, dirprwy weinidog diwylliant yn y llywodraeth ddiwethaf.

Bydd angen i'r cabinet newydd gyfarfod yn fuan ar 么l cael ei ffurfio i gwblhau'r adolygiad o gyfyngiadau Covid-19 cyn cyhoeddiad swyddogol ddydd Gwener.

Mae Mr Drakeford yn dychwelyd fel prif weinidog ar 么l i'w blaid ennill 30 o'r 60 sedd yn y Senedd.

Nid oes disgwyl iddo ddod 芒 gwleidyddion o bleidiau eraill i'w d卯m newydd ac mae'n bwriadu llywodraethu ar ei ben ei hun, fel y gwnaeth Llafur o'r blaen pan enillodd 30 sedd mewn etholiadau yn 2003 a 2011.

Mae modd cael hyd at 14 aelod yng nghabinet Llywodraeth Cymru.

Beth allai newid? Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies

Mae'r etholiad wedi galluogi Mark Drakeford i benodi llywodraeth fydd yn arwain Cymru allan o'r pandemig.

Does dim angen partneriaid clymbleidiol. Mae bwlch yn yr adran addysg yn golygu un yn llai i wynebu'r sac.

Er hynny, fe fydd newidiadau i'w hystyried. Fe fydd rhai ASau yn si诺r o gael eu siomi.

Fe redodd Mr Drakeford am arweinyddiaeth Llafur Cymru fel 'pont' i'r dyfodol, ac fe fyddai rhoi cyfle i dalent newydd yn cadarnhau hynny.

Mae dirprwy weinidogion sydd wedi perfformio'n dda fel arfer yn cael dyrchafiad... ar sail hynny gallai Lee Waters a Hannah Blythyn obeithio am newyddion da.

Ar 么l bod yn brif swyddog cyfreithiol ac arwain y ffordd ar Brexit, does bosib y bydd Jeremy Miles yn bosibilrwydd i arwain adran fwy o Lywodraeth Cymru?

Mae dadl yn erbyn newid y gweinidogion iechyd ac economi yng nghyfnod y pandemig, ond maen nhw'n swyddi caled ac mae Vaughan Gething a Ken Skates wedi bod yn y swyddi ers pum mlynedd.

Ymhlith yr enwau sy'n cael eu trafod mae Jane Bryant a Dawn Bowden... felly hefyd Lynne Neagle, sy'n AS ers 1999 ond erioed wedi bod yn weinidog.

Ond os yw Mr Drakeford am wneud newidiadau, fe allai wynebau cyfarwydd orfod ildio'u lle.

Mae Lesley Griffiths wedi bod yn y cabinet ers 10 mlynedd ac yn ddirprwy weinidog cyn hynny.

Mae Jane Hutt wedi bod wrthi ers mwy na hynny, ond mae hi'n un o ffrindiau pennaf Mr Drakeford mewn gwleidyddiaeth - felly hefyd Julie Morgan.

Mae'r ad-drefnu'n digwydd wrth i Lafur fwynhau canlyniad yr etholiad. Mae'n bosib hefyd mai dyma fydd ad-drefnu olaf Mr Drakeford sydd wedi dweud ei fod yn bwriadu camu lawr cyn yr etholiad nesaf.

Disgrifiad o'r llun, Penderfynodd y cyn-weinidog addysg, Kirsty Williams, adael y senedd cyn yr etholiad

Un swydd fydd yn bendant yn newid dwylo yw'r Gweinidog Addysg wedi i Kirsty Williams benderfynu peidio sefyll yn yr etholiad.

Mae'n swydd sydd 芒 phwysau mawr arni, fel y mae ein gohebydd addysg Bethan Lewis yn egluro.

"Er bod cyfraddau'r feirws yn gostwng mae 么l y pandemig ar addysg yn parhau'n amlwg a phenderfyniadau mawr yn wynebu'r Gweinidog Addysg newydd.

"Dim ond ers mis mae disgyblion o bob oed n么l yn eu stafelloedd dosbarth a bydd angen pwyso a mesur gofalus wrth ystyried a oes lle i lacio'r cyfyngiadau llym ar fywyd ysgol fel y mygydau a'r grwpiau cyswllt.

"Fe fydd ymateb i bryderon am y straen mae'r drefn TGAU a Safon Uwch yn rhoi ar ddisgyblion ac athrawon yn flaenoriaeth arall, ac yn bennaf oll, y nod fydd osgoi methiannau sylweddol y llynedd.

"Yn ogystal, mae her cyflwyno cwricwlwm newydd y flwyddyn nesa - os yw'r Gweinidog am oedi, bydd rhaid penderfynu'n fuan.

"Ceisio gwneud yn iawn am yr addysg sydd wedi ei golli yw'r prosiect hir dymor arall a sicrhau bod y pandemig yn cael cyn lleied o effaith a phosib ar ddyfodol plant a phobol ifanc."