Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ap锚l i godi cerflun Cranogwen yn cyrraedd ei nod
Mae ymgyrch i godi cerflun i'r forwraig, bardd, newyddiadurwraig, pregethwraig ac ymgyrchydd Sarah Jane Rees - neu Cranogwen - wedi cyrraedd ei nod o 拢10,000 o fewn dau fis.
Cafodd yr ymgyrch ei sefydlu gan gr诺p o fenywod o Langrannog ym mis Mawrth er mwyn dathlu gyrfa arloesol Cranogwen, a oedd wedi ei geni a'i magu yn yr ardal yn ystod Oes Victoria.
Roedd Cranogwen wedi cyrraedd rhestr fer pleidlais gan y 大象传媒 i godi cerflun i arwres o Gymru, ond penderfynodd y gr诺p bod angen parhau 芒'r fenter er mwyn anrhydeddu Cranogwen yn ei chartref ei hun.
Fe wnaeth Cranogwen herio holl gyfyngiadau myglyd benywdod Fictoraidd i fwynhau gyrfa oedd yn llawn profiadau, cyflawniad ac antur - gan gynnwys cyfnod fel morwraig ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc.
Hi oedd y ddynes gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod.
'Arwrol ac ysbrydoledig'
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o drefnwyr yr ymgyrch, Carys Ifan: "Mae brwdfrydedd heintus wedi bod a dim ond diolch allwn ni ei wneud i bawb am gefnogi codi cerflun i'r ddynes oedd mor arwrol a mor ysbrydoledig. Dyma sydd wedi cydio yn dychymyg pawb."
Ychwanegodd bod Cranogwen wedi "torri tir newydd i ferched yn gyffredinol a dw i'n credu bod o'n addas iawn ein bod ni'n ei thrafod hi heddiw, diwrnod ar 么l neges ewyllys da Yr Urdd a oedd yn s么n am gydraddoldeb i ferched".
Mae Ms Ifan ac ymgyrchwyr eraill yn cydweithio 芒 Monumental Welsh Women, sef sefydliad dielw sy'n ymroddi i gydnabod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru.
Yn 么l y sefydliad, nid oes ddim un cerflun o "fenywod Cymraeg go iawn" yng Nghymru, felly maent yn anelu at godi pum cerflun i anrhydeddu pum menyw Cymraeg, mewn pum lleoliad gwahanol, mewn pum mlynedd.
Bydd y 拢10,000 sydd wedi'i godi gan fenywod Llangrannog yn cyfrannu at y swm sydd gan y sefydliad yn barod. Dywedodd Ms Ifan bod cerfluniau yn costio o ddeutu 拢75,000 fel arfer.
'Dyrchafu ei henw'
"Mae ei dylanwad hi dal yma yn lleol - ni dal 芒 phethau fel Merched y Wawr Cranogwen, ni dal 芒 clwb cychod, clwb rhwyfo sydd 芒 chwch o'r enw Cranogwen.
"Ni eisiau gwneud yn si诺r bod ni'n dyrchafu ei henw eto fyth a bod mwy o bobl yn cael gwybod amdani."
Dywedodd Ms Ifan bod cynlluniau i godi'r cerflun ar ddarn o dir drws nesaf i Gapel Banc-Y-Felin. Roedd Carnogwen yn aelod o'r capel ac yn 么l y s么n, fe gyfrannodd at adeiladu'r adeilad ar 么l iddi fod yn teithio o amgylch America yn pregethu.
Ond yn gyntaf, bydd yn rhaid penodi cerflunydd a gwneud gwaith ymchwil er mwyn penderfynu beth i'w arddangos fel rhan o'r cerflun.