Mared Jarman: 'Mae 'na le i bawb'
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n credu fod pobl anabl yn gr诺p o bobl sy'n cael ein anghofio yn aml. A 'da ni'n aml iawn ddim yn ran o'r sgwrs. Dwi ddim yn gwybod pam mae hynny'n digwydd ond hyd yn oed pan ti'n gwrando ar bodlediadau am diversity ac inclusion, mae anabledd yn aml yn cael ei anghofio."
Mae'r actores ifanc Mared Jarman o Gaerdydd yn benderfynol o newid hyn. Mae hi'n ymddangos yng nghyfres drama newydd Yr Amgueddfa ar S4C, lle mae'n chwarae cymeriad sy'n gallu gweld er fod Mared ei hun wedi ei chofrestru'n ddall.
Meddai Mared: "Fel actor os dwi'n gallu cael gwaith a chael fy ngweld mae hynny yn ei hun yn statement sy'n profi bod 'na le i bawb."
Gwireddu breuddwyd
Graddiodd Mared o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd yn 2020: "Roedd mynd i goleg drama yn rhywbeth o'n i wastad wedi ishe 'neud ond erioed wedi meddwl bod hi'n bosib i rhywun fel fi i 'neud.
"Dyw Coleg Cerdd a Drama ddim wedi cael lot o bobl anabl ar eu cyrsiau actio nhw dros y 70 mlynedd diwethaf.
"Fi oedd y cynta' gyda unrhyw sensory impairment. 'Oedd e'n huge learning curve i fi ac iddyn nhw."
Dywedodd am ei r么l gyntaf yn y gyfres deledu Yr Amgueddfa: "Dwi mor gyffrous a fi mor ddiolchgar bod nhw wedi gwneud y cam yna o hurio actor anabl. I hurio fi fel actores nam golwg i chwarae rhan merch sy' efo golwg llawn.
"Mae'n rili gyffrous bod nhw wedi gweld bod actorion anabl yn gallu bod yn ddigon diverse."
Cafodd Mared wybod pan oedd yn 10 oed bod ganddi'r cyflwr Stargardst, sy'n effeithio ar y golwg canolog ac sy'n gwaethygu gydag amser.
Dywedodd: "Dwi wedi fy nghofrestru'n ddall. Fi bron yn ddall yn y llygad dde ac mae gen i tua 25% o olwg yn y llygad chwith.
"'S'gen i ddim golwg canolog o gwbl. Yn hytrach na gweld beth ti fod i weld o dy flaen dwi'n gweld cwmwl enfawr du lle dyw golau ddim yn treiddio trwyddo. Ac mae goleuadau'n fflachio dros hwnna i gyd.
"Er mwyn gallu gweld rhywbeth dwi'n gorfod defnyddio golwg allanol fi. Weithie dyw llygaid fi ddim yn edrych yn y lle cywir so dwi'n gorfod ffugio pethau fel eye contact (tra'n actio) a dwi'n gorfod bod yn ymwybodol iawn o le mae'r camera achos falle 'neith llygaid fi edrych mewn i'r camera. Fi'n gorfod esgus bod fi'n edrych ar actor arall er bod fi ddim yn gallu gweld nhw.
"Fi'n gorfod fakeo hynny i gyd.
"Mae lot o actio i 'neud efo gwrando a bod in tune efo dy gorff dy hun a'r actorion eraill. Felly be' mae'n meddwl yw bod ti'n gorfod aros yn rili fyw yn y foment. Mae teledu yn hyfryd achos mae gen ti'r amser i 'neud hynna a ti'n gallu chwarae yr un olygfa sawl tro.
"Roedd golwg llawn gen i tan o'n i tua 10 mlwydd oed ac mae pawb arall yn fy mywyd i'n gallu gweld yn llawn - os ti'n tapio mewn i gymeriad sy'n dod o gefndir gwahanol i ti, ti'n defnyddio unrhyw beth ti'n gallu i fynd mewn i'r byd yna."
Heriau
Yr her pennaf tra'n ffilmio oedd bod mewn lleoliadau newydd: "Fi'n 'nabod Caerdydd, mae 'nghorff i'n adnabod Caerdydd yn rili dda, mae'n 'nabod fy nh欧 yn rili dda. Mae'r spatial awareness yna."
Ond mae'n fater gwahanol pan yn actio ar set newydd felly roedd Mared yn cyfarwyddo drwy dreulio 10 munud yn cerdded o amgylch y set cyn cychwyn: "Pan ti'n mynd ar set newydd, fi ddim yn 'nabod y lle a does gen i ddim digon o olwg i ragweld grisiau neu pethau fel 'na."
Cyfleoedd actio yng Nghymru
Dywedodd Mared: "Beth sy'n anodd yw'r cyfleoedd cywir falle - cyfleoedd safonol i bobl efo anableddau, ddim jest token gestures ond fod tegwch a chyfleoedd da. Mae am cael y level playing field yna. A ddim ticio bocs ond bod ni wir yn cael y pobl cywir mewn i'r cyfleoedd cywir.
"Mae ychydig bach mwy o ymwybyddiaeth ond dwi ddim yn meddwl fod agweddau pobl wedi newid."
Gwyliwch Yr Amgueddfa ar S4C, nos Sul, 30 Mai am 9 o'r gloch.
Hefyd o ddiddordeb