大象传媒

Pryderon am 'bwysau cynyddol ar feddygon teulu'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
MeddygFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n rhaid i feddygol ddelio gyda'u gwaith arferol yn ogystal 芒'r rhaglen frechu ar hyn o bryd

Mae cymdeithas feddygol BMA Cymru yn dweud ei bod wedi gweld "cynnydd arwyddocaol" yn y pwysau gwaith ar ei haelodau.

Wrth i'r rhaglen frechu yn erbyn Covid-19 gyflymu mae'r BMA, sy'n cynrychioli meddygon, yn dweud bod ei haelodau yn gweld cynnydd yn y galw am apwyntiadau, yn enwedig apwyntiadau wyneb yn wyneb.

Mae hynny o'i gymharu 芒'r cyfnod cyn y pandemig, ond mae'n rhaid i feddygfeydd geisio delio ag elfennau fel cadw pellter yn ogystal 芒'u gwaith arferol ar hyn o bryd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda'r BMA i fonitro ac asesu'r gefnogaeth sydd ei angen ar feddygfeydd a meddygon i weithredu'r cynllun brechu Covid-19 a hefyd i gwrdd 芒 gofynion iechyd o ddydd i ddydd.

'Cynnydd dramatig'

Wrth i apwyntiadau wyneb yn wyneb gynyddu yn raddol mae pob apwyntiad yn cymryd mwy o amser er mwyn cydymffurfio 芒 mesurau Covid-19, ac mae hynny'n cynnwys PPE a glanhau 'stafelloedd.

Dywedodd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu BMA Cymru: "Yn fy mhrofiad i ac wrth edrych ar ddetholiad o waith dadansoddi ar apwyntiadau yn yr wyth wythnos ddiwethaf, mae meddygon teulu wedi gweld cynnydd o 18% yn y ceisiadau am apwyntiadau o'i gymharu 芒'r sefyllfa cyn Covid.

"Mae meddygon teulu dan bwysau sylweddol. Mae nifer o gleifion yn dod i drafod rhestrau aros ar y funud, ac mae nifer y cleifion sy'n gofyn am gymorth o ran problemau iechyd meddwl wedi cynyddu yn ddramatig hefyd."

Yn ymarferol mae hynny'n golygu "pwysau aruthrol" i feddygon, meddai, a chymryd "dros ddwywaith yr amser" i feddyg weld person oherwydd y cyfyngiadau.

Ychwanegodd bod "problemau iechyd meddwl 'di cynyddu'n aruthrol, dwi di neud mwy o ofyn am gymorth gan ein timau ni... yn y chwe mis diwetha na nes i erioed o'r blaen - mae'n anhygoel".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr Iestyn Davies bod ei feddygfa yng Nghwm Tawe wedi bod "tu hwnt o brysur"

Mae staff mewn meddygfeydd yn dal i geisio ymateb i'r pandemig ochr yn ochr 芒 gofynion iechyd eraill cleifion, ac yn 么l y BMA maen nhw yn "gweithio yn ddiflino i gwrdd 芒'r galw".

Un o'r systemau newydd i geisio ymdopi 芒'r sefyllfa ydy'r defnydd o ymgynghoriadau ar y ffon neu ar y we.

Ychwanegodd Dr White ei fod yn awyddus i weld hynny'n parhau: "Os fydde pawb isio gweld meddyg, bydde ganddon ni restrau aros yn ymestyn wsnose'.

"Hefo defnyddio teleffon a fideo fedrwn ni siarad efo'r un nifer o gleifion a cynt, a gweld wedyn y rhai sydd angen."

Meddyg teulu yng nghanolfan iechyd Clydach yng Nghwm Tawe yw Dr Iestyn Davies, ac mae'n dweud eu bod nhw "tu hwnt o brysur a phethe wedi cynyddu yn ddramatig iawn yn y misoedd diwetha'".

"Gyda'r cyfyngiadau yn llacio ma' pobl yn teimlo yn fwy rhydd i ddod i'r feddygfa. Roedden ni yn disgwyl hynna," meddai.

Mae'n dweud fod "pobl yn cysylltu am bethe eraill fel apwyntiadau yn yr ysbyty a be' sy'n digwydd gyda'r brechiadau".

"Ac wrth gwrs ma' pobl yn diodde' o hyd ar 么l cael Covid ac ma' hwnna yn broblem fawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cysylltiad cychwynnol yn parhau dros y ff么n neu fideo am y tro

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweithio gyda'r BMA i fonitro ac asesu'r gefnogaeth sydd ei angen i feddygfeydd gyflawni'r rhaglen frechu Covid-19 a chwrdd ag anghenion iechyd pobl.

"Tra'n bod yn parhau mewn cyfnod adfer, bydd cysylltiad cychwynnol dros y ff么n neu fideo er mewn lleihau nifer y cleifion sydd tu mewn i feddygfeydd.

"Mae hyn er mwyn amddiffyn staff a chleifion.

"Os oes angen clinigol am ymgynghoriad wyneb yn wyneb, bydd trefniadau'n cael eu gwneud i'r claf gael mynediad i'r feddygfa."

Pynciau cysylltiedig