大象传媒

Achos Rob Roberts: Galw am gryfhau pwerau cosbi

  • Cyhoeddwyd
rob roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Rob Roberts ei ethol fel AS Delyn yn etholiad cyffredinol 2019

Dylai aelodau seneddol sy'n tramgwyddo fel y gwnaeth AS Delyn, Rob Roberts, wynebu deiseb adalw, sy'n gallu arwain at isetholiad, yn 么l aelod blaenllaw o Lywodraeth y DU.

Ddydd Mawrth clywodd Mr Roberts ei fod yn wynebu cael ei atal o'r senedd am chwe wythnos ar 么l i banel annibynnol ganfod ei fod wedi torri polisi aflonyddu rhywiol.

Petai ymchwiliad gan Bwyllgor Safonau San Steffan wedi dod i'r un casgliad, fe fyddai wedi golygu dechrau deiseb ad-alw yn syth.

Ond oherwydd bod panel annibynnol wedi ymchwilio, nid yw'r un rheolau mewn grym.

Ddydd Mercher, dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps wrth y 大象传媒 ei fod yn gobeithio y bydd yna newid yn y rheolau yn y dyfodol.

Yn siarad yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher, dywedodd Boris Johnson bod tynnu'r chwip yn gam addas yn yr achos.

Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi dweud y dylai Mr Roberts ymddiswyddo o'i sedd ar unwaith.

Dywedodd Mr Shapps: "Mae hyn wedi mynd drwy broses annibynnol newydd, ond dyw'r un rheolau am adalw ddim yn rhan o'r broses, lle gall etholwyr alw am etholiad.

"Er bod hyn yn benderfyniad i D欧'r Cyffredin, rwy'n dueddol o gytuno y dylid cau'r blwch, ac rwy'n ymwybodol y bydd arweinydd y T欧 yn s么n mwy am hyn.

"Nid ydw i'n credu fod yna unrhyw le i'r math yma o ymddygiad yn y T欧, nac mewn cymdeithas, felly mae'n fater eithaf amlwg."

Er bod y panel annibynnol yn argymell ei atal o'r senedd am chwe wythnos, mae'n rhaid i hynny gael ei gymeradwyo gan bleidlais yn Nh欧'r Cyffredin.

Beth oedd manylion yr achos?

Ym Mehefin 2020, fe benderfynodd cyn-weithiwr i Mr Roberts wneud cwyn o aflonyddu rhywiol i Gynllun Cwynion Annibynnol y Senedd.

Dywedodd y cyn-weithiwr wrth y 大象传媒 ei fod yn "anghyfforddus", "wedi'i ysgwyd" ac "wedi'i ddychryn" gan ymddygiad yr Aelod Seneddol.

Mae llefarydd swyddogol ar ran 10 Downing Street wedi dweud bod chwip y blaid Geidwadol wedi'i dynnu oddi ar Mr Roberts.

Yn dilyn y dyfarniad, mae Mr Roberts wedi ymddiheuro, a chydnabod bod ei ymddygiad yn "gwbl anaddas" ac na ddylai wedi digwydd.

Daw dyfarniad y panel annibynnol ar 么l i'r Blaid Geidwadol gau eu hymchwiliad nhw i'r mater, gan ddweud fod AS Delyn wedi "derbyn cerydd cryf" ond y byddai'n parhau fel aelod Ceidwadol.

Pam panel annibynnol?

Y llynedd fe bleidleisiodd Aelodau Seneddol o blaid ffurfio panel annibynnol o arbenigwyr er mwyn delio 芒 honiadau o fwlio ac aflonyddu yn erbyn gwleidyddion.

Ond nid yw cosbau'r Panel Annibynnol yn mynd mor bell 芒 grymoedd y Pwyllgor Safonau Seneddol.

Os yw'r Pwyllgor Safonau yn atal Aelod am 10 diwrnod mae'n arwain yn awtomatig at ddeiseb adalw, sy'n gallu arwain at isetholiad.

Nid yw gwaharddiad sylweddol gan y Panel Annibynnol - er yn delio 芒'r cwynion mwyaf difrifol o fwlio ac aflonyddu yn San Steffan - yn arwain yn awtomatig at yr un canlyniad.