Glyn Wise: 'Dim mwy o wigs'
- Cyhoeddwyd
"Mae rhaid i ti ddod i arfer efo ti dy hun. Ti wedi tyfu fyny a does na ddim byd yn anghywir efo hynny."
Mae'r cyn ymgeisydd Big Brother a'r cyflwynydd Glyn Wise wedi yn moeli am y tro cyntaf ar 么l bod yn cuddio'r ffaith ers rhai blynyddoedd oherwydd y pwysau i gynnal delwedd ifanc.
Mewn sgwrs ar Radio Cymru am y disgwyliadau sydd ar ddynion o ran sut y dylen nhw edrych, datgelodd Glyn ei fod wedi bod yn gwisgo wigiau ers tair blynedd i geisio cuddio'r ffaith ei fod yn colli ei wallt.
"Oedd o'n rhywbeth sy' wedi bod yn chwarae ar fy meddwl ers blynyddoedd. O'n i wedi bod yn gwisgo wigs am dair blynedd jyst oherwydd do'n i ddim yn hapus efo'r ffordd oedd y 'ngwallt i'n edrych - wedi teneuo yn y blaen [ac yn edrych fel] gwallt mynach!
"O'n i'n teimlo 'o gosh, dwi ddim isho edrych fel hyn', oedd o bron iawn fel o'n i isho aros yn y ddelwedd o fod yn 18, nid mod i'n tyfu'n h欧n."
Mae'n bymtheg mlynedd ers i Glyn ddod yn un o'r rhai olaf i adael t欧 Big Brother yn 18 oed gan ddod yn enwog dros nos a chael sylw enfawr yn sgil y gyfres ar Sianel 4.
Doedd ei ddelwedd ddim yn rhywbeth oedd yn croesi ei feddwl ar y pryd ac eto, fe gafodd lawer o waith ac arian wedyn o'i herwydd.
"O'n i'n 18 a does dim byd yn poeni ti pan ti'n ddeunaw achos ti'n ifanc. Y gwahaniaeth mawr oedd nes i allu cael gwaith modelu pan o'n i'n 18; nes i 'neud gwaith efo Calvin Klein, o'n i ar glawr Heat Magazine.
"Mae'r arian maen nhw'n roi i chdi yr adeg yna, ti'n gallu prynu t欧 [efo fo] - oherwydd bod fi wedi bod ar un clawr cylchgrawn: mae clawr un cylchgrawn yn cyfateb i'r arian i gael t欧 yn Llundain. Wedyn mae'n dangos, adeg hynny roedd delwedd yn hollbwysig.
Seilio'n gwerth ar 'likes'
"Ond r诺an, symud ymlaen 15 mlynedd, yn anffodus mewn cymdeithas 'dan ni'n seilio pa mor bwysig ydan ni, neu be' ydi'n gwerth ni, ar faint o likes 'dani'n gael Instagram a Twitter.
"A'r rheiny sy'n cael y mwyaf o likes, o safbwynt dynion, ydy'r rhai sydd ar Men's Health Magazine, lle mae 'na gymaint o gyhyrau neu lle mae eu wynebau nhw'n hollol berffaith. Mae'n siomedig."
Mae'n pryderu, meddai, bod agwedd cymdeithas at ddelwedd dynion yn effeithio ar iechyd meddwl bechgyn a dynion ifanc sy'n meddwl mai dyna sut mae rhaid iddyn nhw edrych i gael y mwyaf o likes, sydd yn ei dro yn golygu y mwyaf o werth sydd ganddyn nhw.
Heneiddio'n falch
Yn ddeunaw oed, roedd bod ar glawr cylchgrawn poblogaidd yn foment falch i Glyn: "O'n i'n meddwl 'Waw, dwi 'di gwneud hi mewn bywyd'.
"O'n i wedi llwyddo ac o'n i mor prowd o'n hun. Ond r诺an dwi'n 33 a mae bron iawn fel mod i yn trio cael be [oedd gen i] yn ddeunaw."
"Ond mae rhaid i ti ddod i arfer efo ti dy hun. Ti wedi tyfu fyny a does 'na ddim byd yn anghywir efo hynny.
Ond yn eironig, mae Glyn wedi cael cynnig mwy o waith ers iddo ddatgelu'r llun ohono heb ei wig.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
"Be' sy'n od ydi dwi 'di cael lot o ymateb gan gwmn茂au eisiau rhoi Botox am ddim imi, gofyn os 'dwi isho facelift. 'Swn i'n gallu cael yr holl bethau ma i gyd am ddim i newid y'n wyneb i gyd achos maen nhw'n gweld be' sy'n mynd ymlaen efo'n Instagram i!"
Ond mae'r pen moel yma i aros meddai Glyn.
"Dwi wedi dod i arfer r诺an - dwi wedi ei roi o ar Instagram, mae o allan yna so wedyn dyna hi r诺an, dim mwy o wigs.
"Ges i rywbeth ofnadwy yn digwydd i fi unwaith, nath y'n wig i ddisgyn off pan o'n i yn yr eglwys yn Shanghai a dwi byth eisiau mynd drwy hynna eto!"
Roedd Glyn yn westai gyda Stephen Parry ac yn sgwrsio gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio.
Hefyd o ddiddordeb: