大象传媒

Y Gynghrair Genedlaethol: Dagenham & Redbridge 1-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam wedi colli eu lle yn safleoedd gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr ar ddiwrnod ola'r tymor wedi iddyn nhw gael g锚m gyfartal oddi cartref yn Dagenham & Redbridge.

Roedd pum t卯m yn cystadlu am y ddau le olaf yn safleoedd y gemau ail gyfle, ond roedd Wrecsam yn gwybod y byddai unhryw fath o fuddugoliaeth yn ddigon i selio eu lle.

Aeth y t卯m cartref ar y blaen ar ddechrau'r ail hanner gyda Paul McCallum yn rhwydo o groesiad 脕ngelo Balanta, ac yn fuan ar 么l hynny fe welodd Paul Rutherford gerdyn coch i Wrecsam am dacl wael ar Matt Robinson.

Er hynny daeth llygedyn o obaith i Wrecsam yn y munud olaf gyda g么l gan Jordan Ponticelli, ond doedd pwynt ddim yn ddigon i'r Cymry.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn gorffen y tymor yn yr wythfed safle - gan fethu 芒 sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle o un pwynt yn unig.

Chesterfield a Bromley lwyddodd i sicrhau'r ddau safle olaf yn y gemau ail gyfle, gan olygu y bydd Wrecsam yn treulio 14eg tymor yn olynol yn y Gynghrair Genedlaethol.