'Mae'r rheolau am werthu capeli yn annheg'
- Cyhoeddwyd
Dywed un o gynghorwyr Sir Conwy bod yn rhaid lob茂o llywodraeth y DU i newid y rheolau sydd ynghlwm 芒 phrynu adeiladau fel capeli a bod y rheolau presennol yn "annheg".
Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Elusennau yn nodi bod yn rhaid i ymddiredolwyr unrhyw elusen sicrhau y fargen orau wrth werthu adeilad.
Wrth siarad ar Bwrw Golwg dywedodd Trystan Lewis bod rheolau o'r fath yn annheg.
"Mae angen lob茂o llywodraeth San Steffan a dweud nad yw hyn yn deg," meddai.
"Ein cyn-deidiau gododd y capeli yma drwy chwys eu talcennau. Maent wedi'u codi ag arian prin y gymuned ac yna maent yn cael eu gwerthu am grocbris i bobl estron neu eu troi'n garejis - gan wneud mwngreliaid ohonyn nhw a difetha'r bensaern茂aeth."
Daw ei sylwadau wrth i Elfed Wyn ap Elwyn arwain ymgyrch i geisio prynu ei gapel lleol. Mae e'n disgwyl cael clywed yn fuan a yw'r cais i brynu capel Utica yn Gellilydan ar gyfer y gymuned wedi llwyddo mewn ocsiwn yn Llundain.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Elusennau: "Yn unol 芒'n canllawiau, wrth werthu neu brydlesu tir ac eiddo elusennol, dylai pob ymddiriedolwr geisio cael y fargen orau i'w helusen.
"Disgwyliwn i bob ymddiriedolwr wneud penderfyniadau er lles gorau yr elusen. Rhaid i'r penderfyniadau hyn hefyd fod yn unol 芒 dibenion cyfreithiol yr elusen honno, ei dogfen lywodraethol a'r gyfraith ar werthu a phrydlesu tir elusennol.
"Diben elusen yw'r hyn y mae wedi'i sefydlu yn 么l y gyfraith i'w gyflawni, ac fel arfer ceir y manylion yn y ddogfen lywodraethol.
"Rydym yn deall y gallai'r penderfyniadau hyn fod yn anodd weithiau ac efallai y bydd y gymuned leol yn teimlo'n gryf neu'n anghytuno 芒'r penderfyniadau a wneir yn unol 芒'r gyfraith a dyletswyddau ymddiriedolwyr."
"Dyna ganolbwynt y broblem," ychwanegodd Trystan Lewis sy'n aelod o bwyllgor cynllunio Cyngor Conwy.
"Mae'n rhaid lob茂o i newid hyn - mae angen cael mwy o adeiladau sy'n adnodd i'r gymdeithas. Mae yna fwy o angen nag erioed am ganolfannau cymunedol wrth i bobl brofi unigrwydd wedi'r pandemig."
'Nid yr elw mwyaf yw'r gwerth gorau'
Dywed Elfed Wyn ap Elwyn mai'r ymgyrch i brynu capel Tom Nefyn a'i sbardunodd i arwain ymgyrch i geisio prynu capel Utica.
"'Nes i deimlo'n ofnadwy ar 么l gweld bod Capel Bethania ym mhentre Pistyll wedi cael ei werthu am dros chwarter miliwn.
"Roedd meddwl am weld capel Utica yn cael ei droi i d欧 haf yn ormod i fi rywsut. Dwi'n meddwl bod capel Utica yn le delfrydol i ddatblygu menter gymdeithasol.
"Mi fedrith gwerthiant capel gyfoethogi ardal mewn llawer mwy o ffyrdd na jyst yn ariannol. Os yw'r capel yma yn dod i ddwylo'r gymdeithas leol, fydden i'n gallu creu swyddi parhaol ac hefyd cadw hanes y lle yn fyw. Mae angen iddo fod yn adeilad cymdeithasol."
Dywedodd Sioned Hughes, prif ymgynghorydd, Cwmni Tai Altair: "Rhaid ystyried nad yr elw mwyaf yw'r gwerth gorau. Mae'n amser i'r Comisiwn elusennau a'r gyfraith fod yn edrych ar werth am arian. Fydd yna ddim newid nes bod y crafangau yma ar ymddiredolwyr yn gallu symud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021