Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen bod mor ofalus cyn llacio pellach', medd meddyg
Mae meddyg o Ben Ll欧n wedi annog pwyll cyn llacio mwy o gyfyngiadau, cyn i Lywodraeth Cymru gynnal eu hadolygiad diweddaraf o'r canllawiau Covid-19 ddiwedd yr wythnos.
Daw rhybudd Dr Eilir Hughes yn sgil rhybuddion y gallai'r DU fod yn wynebu trydedd don.
"Rhaid bod yn hynod o ofalus cyn llacio unrhyw gyfyngiadau ac y gallai llaesu dwylo yn ystod yr wythnosau nesaf fod yn gam gwag," meddai wrth i fwy o achosion o amrywiolyn India o'r haint gael eu cofnodi ar draws Prydain.
Fore Mawrth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y cabinet yn trafod y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ddydd Iau ac yn penderfynu'n derfynol a fydd modd symud i rybudd un o ddydd Llun ymlaen.
Yn Lloegr mae Mehefin 21 wedi ei nodi fel y dyddiad y bydd pob cyfyngiad yn cael ei godi, ond mae gwyddonwyr wedi bod yn galw am oedi.
Ddydd Llun cafodd dros 3,000 o achosion newydd o'r haint eu cofnodi yn y DU am y chweched diwrnod yn olynol - mae 58 achos o amrywiolyn India yng Nghymru yn 么l y ffigyrau diweddaraf.
"Fy nghyngor i Mark Drakeford yw dilyn y data, nid y dyddiada'," medd Dr Eilir Hughes ar Dros Frecwast.
"'Da ni'n tynnu at ddiwedd y pandemig - 'da ni ddim eisiau boddi wrth ymyl y lan - felly gawn ni fod yn ofalus.
"Mae angen bod tu allan pan yn treulio amser gydag eraill, mae angen cadw pellter, gwisgo mwgwd a bod yn ofalus.
"Mae'r lefel R uwchben 1 yn Lloegr ac mae yna s么n am lacio pellach. Tra bod y gwerth yna uwchben un, ymledu llawer mwy 'neith y feirws a hynny mewn dull esbonyddol.
"Mae angen gofyn y cwestiwn a oes angen tynhau y rheolau mewn mannau lle mae'r haint yn lledaenu ar fyrder - yn sicr mi fuasai llacio 'chwaneg a llaesu dwylo yn ystod yr wythnosau nesaf yn gam gwag mawr."
Mae Dr Hughes yn llawn edmygedd o'r rhaglen frechu yng Nghymru ond dywedodd bod yna gwestiynau i'w holi am effeithiolrwydd y brechlynnau.
"'Da ni ar drothwy cyfnod arbrofol mewn ffordd - mae'r sefyllfa 'dan ni ynddo r诺an yn dra gwahanol i be oeddan ni ynddo ar ddechra'r pandemig yn y gwanwyn y llynedd," meddai.
"Mae'r ymdrechion i frechu yma yng Nghymru yn arbennig ond mae amrywiolyn Delta wedi dod ar ein traws.
"Mae'r brechlyn ond yn un ffactor o osgoi ymlediad - mae ond yn gweithio i fyny hyd at 80% i bobl - felly mae gynnoch chi wastad 20% lle nad yw'r brechlyn wedi bod yn ddigonol.
"Dyna'r cwestiwn mawr - faint o bobl fydd yn ddifrifol wael? Faint o bobl fydd yn dod ar ofyn y Gwasanaeth Iechyd yn sgil yr amrywiolyn newydd yma?"
"Dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus yngl欧n 芒 sut 'dan ni yn llacio i'r dyfodol - mae'n dir hollol newydd."
'Aros ychydig bach hwy'
Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n hoffi gweld pwyll ar lacio'r cyfyngiadau a chael cwrdd tu mewn i gartrefi pobl, dywedodd: "Ddim eto tan bo' ni'n gwybod be' sy'n digwydd efo'r amrywiolyn newydd 'ma.
"Mae'r niferoedd yng Nghymru ar hyn o bryd yn isel ond fe wnaeth poblogaeth Pen Ll欧n ddyblu os nad treblu dros y penwythnos.
"'Da chi ddim yn mynd i weld effaith cymysgu poblogaethau tan ryw bythefnos neu dair wythnos - mater o aros ychydig bach hwy yw e nes bod ni'n gwybod lle ydan ni."