Negeseuon sarhaus i reolwraig sydd wedi'i chysylltu 芒 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-reolwr clwb p锚l-droed merched Manchester United wedi derbyn negeseuon rhywiaethol ar Twitter ar 么l cael ei chysylltu gyda swydd rheolwr t卯m dynion Wrecsam.
Pe bai'n cael ei phenodi, Casey Stoney fyddai'r ferch gyntaf i gael ei phenodi'n rheolwr t卯m proffesiynol dynion yn y DU, ac yn 么l y bwcis hi yw'r ffefryn i gael y swydd ar hyn o bryd.
Ond mae Ms Stoney wedi ymbellhau oddi wrth unrhyw gysylltiad 芒'r swydd, ar 么l derbyn negeseuon sarhaus ar Twitter.
Mae'r cyn-amddiffynwr a enillodd 130 cap i Loegr ar y llwyfan rhyngwladol, wedi beirnadu'r negeseuon.
'Cywilydd arnoch chi'
Dywedodd y dylai'r unigolion dan sylw fod 芒 chywilydd am gyhoeddi negeseuon o'r fath.
"Os oes gennych chi ferch, chwaer, gwraig neu fam, dylech fod 芒 chywilydd," meddai ar Twitter.
Mae nifer fawr wedi ymateb gyda negeseuon yn cefnogi Ms Stoney, ac yn pwysleisio y byddai'n gaffaeliad i unrhyw d卯m p锚l-droed.
Ymateb CPD Wrecsam
Dywedodd cyfarwyddwr CPD Wrecsam, Humphrey Ker, ei bod yn galonogol gweld safon yr ymgeiswyr sydd wedi rhoi eu henwau ymlaen am swydd y rheolwr hyd yma.
"Serch hynny mae'r gamdriniaeth sydd wedi cael ei anelu at ymgeiswyr posib ar gyfryngau cymdeithasol yn 'styrbio rhywun, a hoffwn ymddiheuro iddyn nhw ar ran y clwb.
"Fel y byddai mwyafrif llethol ein cefnogwyr yn cytuno, nid oes croeso i'r math yma o ymddygiad yn CPD Wrecsam a byddwn yn parhau i weithio gyda gweddill y byd p锚l-droed i weld diwedd ar gamdrin ar-lein."
Gadawodd Ms Stoney ei swydd gyda Manchester United ym mis Mai ar 么l iddynt orffen yn bedwerydd yn yr Uwch Gynghrair Merched a cholli allan ar le yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Wedi tair blynedd yn y swydd, dywedodd ei bod yn teimlo fod yr amser yn iawn iddi gymryd seibiant.
Daeth swydd rheolwr Wrecsam yn wag ar 么l i'r t卯m fethu 芒 chyrraedd gemau ail-gyfle'r EFL yn g锚m ola'r tymor.
Penderfynodd y clwb - sydd wedi cael ei brynu gan y ddau actor Hollywood, Rob McElhenney a Ryan Reynolds - i beidio ag ymestyn cytundeb y rheolwr, Dean Keates, a gafodd ei benodi yn 2019.
Dywedodd yr actorion eu bod wedi ymrwymo i gael Wrecsam yn 么l i Gynghrair Genedlaethol Lloegr cyn gynted a phosib, ac mai newid rheolwr fyddai'n rhoi'r cyfle gorau iddynt gyflawni hynny.
Caniat谩u cynnwys Twitter?
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Dywedodd prif sgoriwr t卯m Cymru, Helen Ward, y byddai'n "wych gweld menyw yn cymryd swydd lefel uwch gyda th卯m dynion", ond roedd rhaid i'r amgylchiadau fod yn addas.
"Mae Casey wedi gwneud yn dda iawn efo Manchester United ond mae hi'n dal yn weddol ddibrofiad fel rheolwr, felly os nad yw hi'n teimlo ei fod e'n iawn, dydi hi ddim am fynd amdani," meddai Ms Ward wrth y 大象传媒.
Ond roedd hynny'n siwr o ddigwydd yn hwyr neu'n hwyrach, meddai.
"Pan welwch chi reolwr benywaidd maen nhw'n llai profiadol na lot o ddynion am nad yw g锚m y merched wedi bod yn broffesiynol ers llawer o amser.
"Dyw'r amser iawn ddim wedi dod eto, ond dwi'n meddwl ei fod ar y ffordd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021