大象传媒

50% yn fwy o achosion gyrru dan ddylanwad cyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae gan y Sarjant Raymond Williams neges 'glir' yn erbyn gyrru dan ddylanwad cyffuriau

Roedd yna gynnydd o 50% y llynedd yn nifer y bobl gafodd eu dal yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau, yn 么l ymchwil rhaglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.

Fe amlygodd yr ymatebion i gais Rhyddid Gwybodaeth bod y cynnydd bron yn 90% mewn rhai ardaloedd yn ystod blwyddyn y pandemig.

Mae swyddogion heddlu ac elusennau'n atgoffa'r cyhoedd bod gyrru dan ddylanwad cyffuriau'r un mor beryglus 芒 gyrru dan ddylanwad alcohol.

Yn 么l y Sarjant Raymond Williams o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru, mae disgwyl i'r ffigyrau godi eto erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae'n dweud bod o a'i gydweithwyr wedi dal nifer cynyddol o bobl yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau dros y blynyddoedd diwethaf.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae profion poer yn cael eu cynnal ar ymyl y ffordd i weld os yw gyrrwr dan ddylanwad cyffuriau

Mae ymddygiad gyrwyr yn amrywio, meddai, gan ddibynnu ar ba gyffur sydd eu system.

Mae pobl yn dueddol o ymlacio mwy ac oedi cyn penderfynu a gweithredu ar 么l cymryd canabis, ond yn gyrru'n fwy gwyllt dan ddylanwad coc锚n.

Fe gafodd teclynnau profi am gyffuriau eu cyflwyno ar gyfer heddluoedd Cymru a Lloegr yn 2015.

Yn 么l y disgwyl, o brofi rhagor o yrwyr, roedd 'na naid fawr yn nifer y bobl gafodd eu dal erbyn y flwyddyn ganlynol, ond mae'r twf hwnnw wedi parhau yn y pedair blynedd hyd at y llynedd.

Yn 2020, ym mlwyddyn y pandemig, roedd 'na gynnydd o 50% yn nifer y bobl a gafodd eu dal yng Nghymru'n gyrru dan ddylanwad cyffuriau, sef i 3,610 o achosion.

Mewn rhai lluoedd, roedd y cynnydd gymaint 芒 90%.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Sarjant Raymond Williams ar batr么l

Mae'r dechnoleg yn dal yn gymharol newydd, medd Raymond Williams, ond mae'r cynnydd mewn achosion yn destun siom.

"Y gair gora' 'swn i'n ddefnyddio ydi rhwystredig... achos bod 'na gymaint wedi ca'l eu harestio" meddai.

"Mae 'na dros 300 o arrests wedi cael eu gwneud flwyddyn yma yn unig.

'Dwi'm yn gw'bod be' 'di'r rheswm tu 么l iddo. Yr unig beth 'dwi isio roi ydi neges clir iawn gan Heddlu Gogledd Cymru bod ni allan yn fan'na yn trio tynnu'r trwyddeda' 'na oddi ar bobl.

"Ella na dyna'r unig ffor' ma' nhw'n mynd i ddysgu."

'Galaru am weddill eu hoes'

Fel un sydd wedi wedi gorfod torri'r newyddion gwaethaf i deuluoedd pobl ddiniwed gafodd eu lladd gan yrrwr ar gyffuriau, mae Raymond Williams yn sicr bod ymddygiad o'r fath yr un mor beryglus 芒 gyrru dan ddylanwad alcohol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gollodd Jasmine Wilson o'r elusen Brake ei mab wedi gwrthdrawiad ffordd

Dyna hefyd ydy barn elusen Brake sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi eu hanafu, neu gyda theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid mewn damweiniau ffordd.

Llefarydd yr elusen ydy Jasmine Wilson, a gollodd ei mab Aled mewn damwain ffordd yn 2003.

"Ma' teulu yn galaru am weddill eu hoes, boed hynny'n flynyddoedd maith," dywedodd.

"Gan ystyried bod hynny o flaen teulu - oherwydd bod un person wedi bod mor hunanol ac yn anghyfrifol."

Pynciau cysylltiedig