大象传媒

Galwad am ddiffibrilwyr ymhob gweithle yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ben Davies gyda Christian EriksenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Christian Eriksen (ar y dde) yn gyd-chwaraewr i Spurs gyda'r Cymro Ben Davies

Mae carfan b锚l-droed Cymru wedi anfon eu dymuniadau gorau i Christian Eriksen wedi iddo gael ataliad ar y galon yn ystod g锚m rhwng Denmarc a'r Ffindir yn Euro 2020.

Cafodd y chwaraewr 29 oed driniaeth ar y cae - bu'n rhaid iddo gael cymorth diffibriliwr - cyn cael ei symud i'r ysbyty.

Dywedodd swyddogion yn ddiweddarach fod Eriksen mewn cyflwr sefydlog yno, ac wedi siarad gyda'i gyd-chwaraewyr.

Roedd Eriksen yn arfer chwarae i'r un clwb 芒 Ben Davies yn Tottenham Hotspur.

Wedi'r digwyddiad, mae 'na alwad i sicrhau bod diffibrilwyr ar gael ymhob gweithle yng Nghymru.

Ers y digwyddiad mae dros 100 o glybiau wedi cysylltu gydag elusen Calon Hearts ynghylch sicrhau diffibrilwyr.

Dywedodd Sharon Owen o'r elusen: "Fe dreuliais i drwy'r dydd ddoe yn ateb galwadau a derbyn ebyst... fe gafon ni dros 100 cais o fewn ychydig oriau, a'r clybiau sydd wedi bod yn ffonio.

"Dylai pobman gael un [diffibriliwr] ac fe ddylen nhw fod yn orfodol.

"Os ydych chi'n cael ataliad ar y galon a heb ddiffibriliwr, mae gyda chi 7% o obaith o oroesi... gyda diffibriliwr mae'r gobaith dros 70%."

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Alun Davies AS ataliad ar y galon yn 2020

Yn 2020 fe gafodd Aelod Senedd Blaenau Gwent, Alun Davies, ataliad ar y galon.

Ar raglen Dros Frecwast fore Llun, dywedodd: "Mae'n edrych fel mai dyna yr union beth ddigwyddodd i fi y llynedd.

"Mae rhaid cael defibillators ar gael yn y gymuned - achos beth bynnag sydd yn digwydd, pan mae 'na cardiac arrest mae gen ti funudau i achub bywydau.

"O'n i'n lwcus iawn o'r bobl oedd o gwmpas fi ac o'n i'n siarad gyda phobl pan ddigwyddodd y peth... o'n nhw'n gw'bod yn union beth i wneud, o'n nhw'n gallu dechrau CPR a gyrru rhywun off i gael defribrillator.

"Achos yn ganol Caerdydd oedd e, oedd 'na defribrillator ar gael. Nawr pe bai hynna wedi digwydd yn y rhan fwyaf o Gymru - fyse hynny ddim wedi bod yn wir.

"Dwi wedi cyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod ganddon ni access i defibs ar draws y wlad, ac fe wnaethon ni gytundeb gyda Llywodraeth Cymru cyn yr etholiad bod na hyfforddiant yn mynd i ddechrau mewn ysgolion.

Ffynhonnell y llun, Awyr Las
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw bron i draean o oedolion y DU yn debygol o roi cynnig ar berfformio CPR, yn 么l arolwg gan Brifysgol Warwick a YouGov

"Pan nes i gyflwyno y mesur, roedd na gefnogaeth reit ar draws y siambr, ac roedd y Llywodraeth yn fodlon gwrando. Felly be dwi yn mynd i fod yn dweud wrth y Llywodraeth pan ni yn dychwelyd i Fae Caerdydd yw bod rhaid nhw ddim jyst gwrando ond gweithredu hefyd.

"Dyw e ddim wedi digwydd drwy hap a damwain bod na defibrillator a bod pobl gyda hyfforddiant ym mhob un stryd fawr yn y wlad. Mae'n mynd i ddigwydd oherwydd penderfyniadau gwleidyddol sy'n sicrhau bod e'n digwydd.

"Be dwi ishe gweld yw bod yr ansicrwydd sydd gyda ni ar hyn o bryd yn cael ei replacio gyda sicrwydd bod na dfribrillator ar gael ym mhob un cymuned a bod pobl wedyn yn gallu defnyddio fe.

"Pan chi yn cael cardiac arrest, y person sydd yn mynd i achub dy fywyd di yw y person sydd yn cerdded heibio - mae hynny yn neges hynod o bwysig."

Ffynhonnell y llun, Awyr Las
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae bron i 1,000 o ddiffibrilwyr mewn mannau anghysbell ledled gogledd Cymru

Fiona Evans yw therapydd chwaraeon clwb p锚l-droed Y Bala. Dywedodd hithau: "Ni eitha' lwcus yn Uwchgynghrair Cymru fod pob clwb yn gorfod cael diffibriliwr fel rhan o gytundeb y drwydded.

"Ni gyd yn cael ein trainio lan i ddelio gyda situation fel hyn. Mae pob therapist yn y gynghrair yn gweithio gyda'n gilydd wedyn, felly ni yn gw'bod os oes rhywbeth yn digwydd gyda unrhyw t卯m ni yn gallu gweithio gyda'n gilydd.

"O ran chwaraewyr sydd gyda ni yn Bala - bob blwyddyn mae nhw yn cael ECG i jyst checio bod y galon yn iawn a wedyn bob dwy flynedd mae nhw yn cael echo - yn enwedig os mae nhw yn mynd i gemau Ewropeaidd.

"Felly bydde pethe yn cael eu pigo lan ond mae dal rhai pethe undetected yn gallu cropio lan, ond fi yn credu y mwyaf o check-ups mae nhw yn cael y gorau rili rhag ofn bod rhywbeth yn newid yn gloi yn y galon."

Pynciau cysylltiedig