Cyfraniad 'amhrisiadwy' meddygon Cymraeg y dyfodol

Disgrifiad o'r fideo, Mae Steffan Gwyn yn fyfyriwr meddygol yn ei ail flwyddyn

Mae myfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa yn y maes meddygol - ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg - yn dweud fod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol ar gyfer lles cleifion.

Yn 么l y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mae yna gynnydd cyson wedi bod yn y rhai sydd am ddilyn cyrsiau meddygol yn y Gymraeg.

Eleni mae chwech o feddygon o Brifysgol Caerdydd newydd orffen eu hastudiaethau, gan gwblhau 30% o'u gradd yn y Gymraeg.

Dywedodd un myfyriwr ail flwyddyn, Steffan Gwyn, 20 o bentref Fforest yn Sir G芒r, fod y cyfle i wneud y cwrs yn Gymraeg gyn golygu llawer iddo.

"Rwy'n meddwl ei fod yn hollbwysig gallu siarad gyda chleifion ym mha bynnag iaith sy'n eu gwneud nhw'n gyfforddus, oherwydd eu gofal nhw sy'n bwysig ac rwy' am hwyluso hynny hyd eithaf fy ngallu.

"Yn ystod fy hyfforddiant rwy'n cofio ymweld 芒 mam newydd ar ward obstetreg oedd wrth ei bodd ein bod ni'n gallu siarad gyda hi yn ei mamiaith."

"Cefais fy ngeni gyda nam ar fy ngolwg felly fel plentyn roedd rhaid i fi ymweld 芒'r optometrydd i gael sbectol newydd bob cwpl o fisoedd.

"Roedden ni'n lwcus fod yr optegydd roedden ni'n ei ddefnyddio'n siarad Cymraeg oherwydd doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg yn iawn tan i mi fod tua phump oed.

"Ond cyd-ddigwyddiad llwyr oedd hynny - ac rwy'n credu y byddai cael mwy o gyfleoedd i ddysgu rhannau o gyrsiau, yn enwedig mewn gofal iechyd, drwy gyfrwng y Gymraeg, yn cynnig gwell mynediad i bawb."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er 2015, mae myfyrwyr yn derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio o leiaf 30% o'u gradd yn Gymraeg.

Mae cyfanswm o 71 o fyfyrwyr yn dilyn astudiaethau meddygol ar hyn o bryd.

Yn 么l Sara Vaughan, rheolwr datblygu'r Gymraeg yn Ysgol Feddygol y brifysgol, mae hynny yn brawf o'r diddordeb cynyddol.

"Mae cyfraniad y myfyrwyr hyn i ddyfodol system gofal iechyd Cymru yn amhrisiadwy," meddai.

"Mae astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn golygu y gall myfyrwyr ymarfer y ddwy iaith wrth drin cleifion ar lawr gwlad.

"Cyfathrebu da yw'r pwyslais yma ac mae ymarfer y ddwy iaith gyda'i gilydd yn rhoi'r modd i fyfyrwyr ragori wrth wneud hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae Prifysgol Bangor mewn partneriaeth gyda Chaerdydd i gyflwyno hyfforddiant meddygol yn y gogledd

Dywedodd Magi Tudur, 21, o Benisarwaun, ger Caernarfon, fod gallu cyfathrebu yn Gymraeg gyda chleifion wedi bod yn hynod o werthfawr yn ystod y pandemig.

"Oherwydd Covid, rydyn ni wedi gorfod mynd ar-lein i gwblhau ein lleoliadau gyda meddygon teulu, sydd wedi golygu siarad 'efo cleifion ar alwad fideo.

"Roedd yn ddefnyddiol bod yn ddwyieithog yn ystod y sesiynau hyn gan fod rhai cleifion yn Gymry iaith gyntaf ac eraill 芒 Saesneg yn iaith gyntaf.

"Gall gweld cleifion ar-lein fod yn anodd felly roedd gallu siarad 'efo nhw yn eu hiaith gyntaf yn gymorth mawr," meddai.

Dywedodd Magi, sy'n rhan o bartneriaeth Prifysgol Bangor gyda Chaerdydd i gyflwyno hyfforddiant meddygol yn y gogledd, ei bod yn gobeithio y bydd myfyrwyr yn gallu astudio eu gradd yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg yn y dyfodol.

"Mae siarad am iechyd a cheisio mynegi eich hun yn eich ail iaith yn gallu bod yn anodd iawn, ac ambell waith mae'n creu rhwystr yn y lleoliad gofal iechyd.

"Os mai'r Gymraeg ydy iaith gyntaf y claf, mae'n golygu llawer os ydyn nhw'n gallu cyfathrebu efo'r meddygon yn Gymraeg gan fod hyn yn rhoi cyfle llawn a theg iddyn nhw fynegi eu hanghenion a'u pryderon."