大象传媒

Ateb y Galw: Yr awdures Megan Hunter

  • Cyhoeddwyd
Megan HunterFfynhonnell y llun, Megan Hunter

Yr awdures Megan Hunter sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar 么l iddi gael ei henwebu gan Nic Parry yr wythnos diwethaf.

Mae Megan yn dod o Benygroes, Dyffryn Nantlle, ond bellach yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, tu 么l i'r awyr, ym mis Tachwedd 2020 ac mae hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion yn Y Stamp, O'r Pedwar Gwynt ac antholeg Cheval. Yn ogystal ag ysgrifennu, mae Megan yn mwynhau cerddoriaeth ac yn chwarae'r ffliwt, piano, sacsoffon a git芒r.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ar lawr ystafell fyw yng Nghaerdydd yn edrych drwy ffenest dal, ac yna symud i Benygroes, Dyffryn Nantlle, pan oeddwn i tua dwy oed.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl n么l?

Ymweld 芒'r teulu yn Cincinnati, Ohio, tua 10 mlynedd yn 么l a mynd i iHop efo Nana, fy chwaer a fy nghefndryd i gael crempogau. Roedd y gweinyddwr, Charles, yn anarferol o garedig ac fe gafon ni lawer iawn o fwyd ac ysgytlaethau am ddim ganddo fo - gormod i ni fwyta ar y pryd ac felly roedd rhaid i ni gario'r holl fwyd yn 么l adra.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mynydd Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle - dwi'n cofio cerdded o'r t欧 i gopa Cilgwyn yn aml yn ystod y cyfnod clo ac mae'r olygfa o Ddyffryn Nantlle o'r copa yn wych.

Ffynhonnell y llun, Megan Hunter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mot, ci Megan, ar ben mynydd Cilgwyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Amhosib dewis un!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Angerddol, goddefgar, tawel.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Aderyn yn p诺 ar fy mraich pan o'n i ar fin dechrau ras mabolgampau yn yr ysgol gynradd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti gr茂o?

Gwylio Mare of Easttown wythnos ddiwethaf.

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o gaws a siocled!

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae un o hoff gyfresi Megan, His Dark Materials, wedi ei haddasu i'r teledu

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Amhosib dewis un llyfr neu ffilm gan eu bod yn newid yn wythnosol, bron, ond dwi'n meddwl am O! Tyn y gorchudd gan Angharad Price yn aml, flynyddoedd wedi gorffen darllen y nofel. Dwi hefyd wrth fy modd efo'r gyfres His Dark Materials gan Philip Pullman, a byddwn i'n argymell pawb i ddarllen Mynd gan Marged Tudur a The Choice gan Edith Eger - llyfrau sydd 芒'r gallu i newid bywydau, dwi'n meddwl.

O ran ffilmiau... waw, gymaint ohonyn nhw! Nes i ddotio efo Eighth Grade a Jojo Rabbit yn ddiweddar, ac hefyd wrth fy modd efo The Miseducation of Cameron Post (ffilm ar Netflix sydd heb gael hanner gymaint o sylw ag y mae'n ei haeddu!), Green Book, La La Land, Interstellar, Me and Earl and the Dying Girl... gormod i'w henwi, mewn gwirionedd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Nain a Taid - collwyd y ddau pan oeddwn i a fy chwaer yn ifanc iawn.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Three Black Cats gan Maud Lewis gan ei fod mor lliwgar, yn gwneud i fi wenu ac mae'r cathod yn edrych yn debyg i fy nghath i! Mae stori bywyd Maud Lewis hefyd yn anhygoel - roedd hi'n artist gwerinol o gefn gwlad Nova Scotia heb unrhyw hyfforddiant ac yn dioddef arthritis difrifol, ond ni fuodd hynny'n ei rhwystro rhag gorchuddio pob arwyneb ei th欧 efo darluniau.

Ffynhonnell y llun, Maud Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Three Black Cats gan Maud Lewis

Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Gweld Nana, Grampa a'r holl deulu sydd yn byw yn yr UDA.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn i'n pwyso pwys, pump owns pan ges i fy ngeni.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Part茂o ar y traeth efo teulu, ffrindiau a'r anifeiliaid anwes i gyd!

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Jeff Bezos; byddwn i'n rhoi ei bres i gyd i elusennau.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Mari Elen Jones.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap 大象传媒 Cymru Fyw