大象传媒

Gr诺p twristiaeth yn gwrthod treth ymwelwyr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Maes carafanau ym Menllech
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Maes carafanau ym Menllech, Ynys M么n

Mae cynrychiolwyr diwydiant twristiaeth Cymru wedi gwrthod yn gyfan gwbl gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno treth dwristiaeth.

Mae gweinidogion yn ystyried y posibilrwydd o godi treth ar ymwelwyr, ond mae'n aneglur os oes gan Lywodraeth Cymru'r grym i wneud hynny.

Ond yn 么l Cynghrair Twristiaeth Cymru fe fyddai cam o'r fath yn gwneud y diwydiant yn llai cystadleuol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wrth raglen Politics Wales 大象传媒 Cymru bod "dim penderfyniad" eto a bod angen "sgwrs ac ymgynghoriad eang".

'Suddo'

Wrth amlinellu rhaglen ddeddfwriaethol ei lywodraeth yr wythnos hon dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y gallai toll "fod yn gyfle sylweddol i awdurdodau lleol fuddsoddi yn y gwasanaethau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant".

Mewn ymateb dywedodd cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Andrew Campbell: "Nid yn unig y bydd yn gwneud y diwydiant yn llai cystadleuol, gan anfon neges bod Cymru'n ddrytach i ymweld 芒 hi, ond mae busnesau eisoes yn ei chael hi'n anodd taro'n 么l yn ariannol o'r pandemig.

"Yn hytrach na chynnig treth newydd, dylai Llywodraeth Cymru fod yn canolbwyntio ar gymorth ariannol i helpu'r sector."

Mae pryderon mewn rhai ardaloedd y gallai'r diwydiant lethu poblogaethau lleol.

Dywed Nia Jones, cadeirydd Cynghrair Twristiaeth M么n, bod nifer sylweddol uwch o ymwelwyr eleni yn barod.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er y pwysau ar gyrchfannau ar hyn o bryd, dyw Nia Jones ddim am weld ymateb 'byrbwyll' i'r sefyllfa

"Roedd [wythnos wyliau hanner tymor y] Sulgwyn ar lefel arall yma ar yr ynys," meddai.

"Byddwn i'n dweud bod y gair suddo yn dod i'r meddwl, nid yn unig gydag ymwelwyr dros nos, ond ymwelwyr am y dydd hefyd."

I George Reid, sy'n rhedeg gwesty gwely a brecwast Plasty Glangwili yn Sir Gaerfyrddin, mae'r galw'n ddigynsail.

"Mae'r galw wedi bod yno o'r eiliad yr oeddem yn cael agor y drysau," meddai. "Dydy'r ff么n heb stopio canu, yn llythrennol, o'r eiliad y cyhoeddwyd y cyfyngiadau a fyddai'n codi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Benllech yn llawer mwy prysur na'r arfer eleni, medd Gareth Hughes sy'n byw yn y pentref

Mae Gareth Hughes yn byw ym Menllech, pentref poblogaidd i dwristiaid, ar Ynys M么n. Dywedodd bod llawer mwy o dwristiaid eleni.

"Fel arfer rydyn ni'n cael cyfnod tawel braf rhwng y Sulgwyn a gwyliau'r haf ond mae'n ymddangos i mi fod pawb yn aros yma," meddai.

'Peidio ymateb yn fyrbwyll'

O ran datrysiadau, fel treth i dwristiaid, mae Nia Jones yn dweud ei bod hi'n bwysig peidio ymateb yn rhy sydyn.

"Rydan ni wedi'i weld yn gweithio mewn gwledydd eraill, yn enwedig ar dir mawr Ewrop," meddai.

"A ydi o'n rhywbeth y mae angen i'r diwydiant ddelio ag o ac ymdopi ag o ar hyn o bryd? Mae hynny'n amheus.

"Dylai o ddim fod yn ymateb byrbwyll. Mae angen llawer o ymgynghori gyda'r sector, a'r ymwelwyr wrth gwrs, i gael y cydbwysedd iawn. Ac mae angen i ni wybod yn union sut y bydd y pres yna'n cael ei wario."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Chris Lewis-Roberts o blaid treth dwristiaeth 'cyn belled 芒'i fod o ddim yn rhy uchel'

Yn gyffredinol, roedd yna gefnogaeth i'r syniad ym Menllech gan bobl leol ac ymwelwyr.

Dywedodd Chris Lewis-Roberts, sy'n byw yno: "Alla i ddim gweld pam ddim, cyn belled 芒'i fod o ddim yn rhy uchel, a byddai'n gwneud llawer o bobl leol yn hapus hefyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gill Simpson a Dawn Warburton - dau ymwelydd 芒 Benllech sy'n gweld dwy ochr y ddadl

Roedd Gill Simpson a Dawn Warburton ar wyliau ym Menllech. Bydden nhw'n hapus i dalu ond maen nhw'n poeni y gallai arwain at rai pobl yn peidio 芒 dod.

Dywedodd Ms Simpson: "Rwy'n cytuno os yw'n mynd i wella'r ffyrdd a gwella seilwaith ond mae'n dibynnu a fyddai'n fforddiadwy."

Cytunodd Dawn ond dywedodd "gallai droi rhai pobl oddi ar ddod ac ni fyddai hynny'n gweithio'n dda iawn".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lesley Jones yn dadlau dros ddefnyddio arian a fyddai'n cael ei godi gan dreth yn ddoeth

Dywedodd perchennog siop anifeiliaid anwes y pentref, Lesley Jones: "Rwy'n credu y byddai'n beth da cyn belled 芒 bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i helpu'r ardaloedd sydd ei angen fwyaf."

Awgrymodd y dylid ei ddefnyddio ar gyfer tai i helpu rheini sy'n prynu eu cartrefi cyntaf.

'Dim gorfodi newidiadau'

Dywedodd Vaughan Gething nad oes angen i'r diwydiant boeni y bydd newidiadau'n cael eu gorfodi arnyn nhw.

"Mae'n sgwrs ac yn ymgynghoriad eang y mae angen i ni ei gael nawr," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae angen sgwrsio ac ymgynghori, medd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething

"Mae'n rhaid iddo gynnwys llywodraeth leol oherwydd bod llawer o ymwelwyr yn rhoi llawer o bwysau ar wasanaethau llywodraeth leol.

"Mae'n rhaid i ni gymryd persbectif gwasanaethau iechyd ac yna mae'n rhaid cael sgwrs gyda'r bobl sydd yn y diwydiant twristiaeth ei hun hefyd.

"Felly dydw i ddim yn meddwl bod angen i bobl sy'n gweithio yn y diwydiant hwn boeni y bydd rhywbeth yn cael ei wneud iddyn nhw."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi beirniadu'r syniad o dreth twristiaeth, gan ei ddisgrifio fel "syniad gwarthus".

"Mae twristiaeth yn gyflogwr mawr yng Nghymru, ond mae'r negeseuon cymysg gan Lywodraeth Cymru yn niweidiol iawn i'r sector pan ddylai'r holl ffocws fod ar yr adferiad economaidd," meddai Tom Giffard AS.

"Dylai'r Prif Weinidog glirio'r llanast yma a dweud yn union beth yw cynlluniau Llafyr ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig