大象传媒

Profiad 'brawychus' dynes o Ben Ll欧n tra'n padlfyrddio

  • Cyhoeddwyd
Zoe Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Zoe Williams ei bod hi wedi cael hunllefau yn dilyn y digwyddiad

Mae dynes o Ben Ll欧n a aeth i drafferthion tra'n padlfyrddio yn galw ar bobl i baratoi cyn mynd ar y m么r.

Cafodd Zoe Williams ei dal gan wyntoedd cryfion oddi ar draeth Trefor yn gynharach yn y mis.

Wedi iddi alw Gwylwyr y Glannau, cafodd ei hachub gan griw RNLI Porthdinllaen.

Dywedodd bod y profiad "brawychus" yn golygu na fydd hi'n mentro'n 么l ar y m么r am y tro.

'Penderfyniad ar y spot'

Roedd Ms Williams, 27 oed o Bwllheli, wedi bod yn mwynhau diwrnod ar y traeth gyda'i phartner, Gareth, ar ddydd Sul, 13 Mehefin.

Wrth iddo osod eu caiac yn 么l yn eu car, aeth hi allan ar ei phadlfwrdd. Yn sydyn, tua 20:40, aeth i drafferthion.

"Dim ots faint mor galed o'n i'n padlo, roedd y gwynt yn f'erbyn i ac ro'n i'n cael cael fy nhynnu allan i'r m么r," meddai.

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gan Ms Williams ei ff么n mewn bag sy'n gwrthsefyll d诺r, felly galwodd Wylwyr y Glannau, a fu'n siarad gyda hi wrth ddisgwyl y bad achub

"Ges i fy nhynnu allan yn reit sydyn ac o'n i'n gorfod gwneud penderfyniad ar y spot - o'n i un ai'n dod oddi ar y paddleboard ac yn nofio i'r lan, neu gadael iddo fo fynd 芒 fi ac yn ffonio am gymorth.

"O'n i jyst yn teimlo mor ofn, mor sydyn 'nath hyn droi, mor sydyn 'nath y tywydd droi. O'dd y m么r yn hollol llonydd pan aethon ni allan."

Gan fod ganddi ei ff么n mewn bag sy'n gwrthsefyll d诺r, galwodd Wylwyr y Glannau, a fu'n siarad gyda hi wrth ddisgwyl y bad achub.

"Yn y cyfamser, o'n i wedi drifftio milltir a hanner allan, oedd yn scary achos bod y tonnau yn mynd yn fwy a'r tywydd yn troi, ac o'dd hi'n dechrau tywyllu hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Zoe Williams
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Zoe Williams, yma gyda'i brawd Steffan, ei bod yn rhannu'i stori i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon

Yn 2020, cafodd criwiau'r RNLI eu galw 88 o weithiau at badlfyrddwyr mewn trafferthion ar draws y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Roedd tua hanner ohonyn nhw wedi eu tynnu i'r m么r gan y tonnau, a 12 o'r achosion wedi arwain at achub bywyd.

"Y cyngor sydd gan yr RNLI ar gyfer padlfyrddwyr ydy, yn gyntaf, i gofio gwisgo siaced achub neu siaced arnofio," esboniai Mali Parry-Jones o fad achub Porthdinllaen.

"Hefyd mynd 芒 modd i alw am help efo nhw [fel] ff么n symudol a'i gadw fo mewn c芒s dal d诺r.

"Hefyd gwneud yn si诺r bod y tennyn, neu'r leash, yn cael ei wisgo am eich ff锚r i wneud yn si诺r eich bod chi a'r padlfwrdd ddim yn cael eich gwahanu, achos mae hi mor bwysig eich bod chi'n aros ar y bwrdd os ydych chi'n mynd mewn i drwbl."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mali Parry-Jones, aelod o fad achub Porthdinllaen, yn annog padlfyrddwyr i fynd 芒 ffon symudol mewn c芒s dal d诺r efo nhw ar y m么r

Dywedodd Ms Williams ei bod hi wedi cael hunllefau yn dilyn y digwyddiad, a'i bod yn "pryderu" am fynd yn 么l ar y m么r ar ei bwrdd wedi'r hyn ddigwyddodd iddi.

Mae hi hefyd yn poeni wrth weld padlfyrddwyr ar y m么r heb offer diogelwch.

"Dyna pam dwi'n rhannu'r stori 'ma, rili - i godi ymwybyddiaeth am ba mor bwysig ydy hi bod rhywun yn paratoi ac yn mynd 芒'u ff么n efo nhw.

"Mae'r pouches ar gael gan yr RNLI am ddim ac ar gael ar y we am y nesa' peth i ddim.

"Hefyd pa mor bwysig ydy buoyancy aids. Dwi'n gwybod dy'n nhw ddim yn edrych yn gr锚t nac yn c诺l ond maen nhw mor bwysig.

"Mae'n gallu achub bywyd a 'dwn i ddim beth fasa wedi digwydd 'swn i ddim wedi paratoi a mynd 芒'r rhain efo fi."

Pynciau cysylltiedig