Angen i lywodraethau gydweithio'n well, medd CBI Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae angen i lywodraethau Cymru a'r DU "gyd-dynnu" yn 么l cyfarwyddwr cymdeithas y cyflogwyr, CBI Cymru.
"Y flaenoriaeth ydi beth sydd orau i Gymru a dylai gwleidyddiaeth ddim bod yn rhan o hynny," meddai Ian Price.
Mae'n dweud bod Cymru wedi colli cyfle i ail-siapio'r economi wedi'r argyfwng ariannol yn 2008 ac o ganlyniad fe ddaeth holltau o fewn cymdeithas yn fwy amlwg.
Mae CBI Cymru'n galw am weithredu'n gyflym er mwyn achub cyfleoedd am swyddi newydd a gwella safonau byw.
Fe wnaeth Cymru ddangos bod y wlad yn gallu ymateb yn gyflym yn ystod y pandemig, yn 么l Ian Price.
"Roedd popeth yn cymryd mor hir i'w wneud, ac i ryw raddau, dros y 18 mis diwethaf, rydym i gyd wedi dysgu i wneud pethau lawr ynghynt.
"Mae'n rhaid i ni barhau gyda hynny ond y peryg ydi, unwaith mae hyn drosodd, y byddwn ni'n mynd yn 么l i'r hen arferion a phoeni am f芒n fanylion popeth."
Un maes sydd 芒 chyfleoedd ydi maes ynni adnewyddol, sy'n cael ei yrru gan alw byd-eang i leihau faint o garbon sy'n cael ei greu.
Yn Sir Benfro mae'r diwydiant olew wedi crebachu yn sylweddol.
Yn Noc Penfro, mae'r cwmni olew Total yn rhan o fenter Blue Gem Wind, sy'n datblygu'r fferm wynt gyntaf sy'n arnofio ar y d诺r, rhyw 45 milltir yn y m么r ger arfordir Sir Benfro.
Nod y cynllun ydi defnyddio tyrbinau 265m sy'n cael eu hadeiladu, a'u cynnal a chadw, yng Nghymru.
Mae'r cynllun peilot cyntaf yn addo 600 o swyddi uniongyrchol a 500 anuniongyrchol.
Mae cam nesa'r cynllun yn anelu at gynhyrchu gigawatt o b诺er a 3,000 o swyddi.
Mae'r broses o roi gwaith allan i dendr eisoes wedi bod yn mynd rhagddo am bum mlynedd.
David Jones ydi Rheolwr Rhanddeiliad cwmni Blue Gem Wind.
"Mae hyn yn mynd i ddigwydd, mi allai fod yn hyderus yn hynny... mae gorsafoedd gwynt sy'n arnofio yn dechnoleg fydd 芒 rhan flaenllaw i'w chwarae wrth geisio atal newid hinsawdd," meddai.
"Mae'n gyfle go iawn i greu swyddi ac adfywio economi'r arfordir ac econom茂au eraill cyfagos ac fe all fod yn gyffrous i Gymru yn enwedig - y de orllewin yn benodol.
Dywedodd Mr Jones y byddai'n hoffi gallu gweithredu o Gymru, ond dydi'r porthladdoedd ddim yn addas.
"Mae porthladdoedd mor bwysig i greu swyddi.
"Mae'r offer yma yn fawr. Mae'r tyrbinau'n fawr, mae'r platfformau yn anferth, ac mi ydan ni eisiau sicrhau bod Cymru'n gweld gymaint o fudd o hyn ag y medrwn ni.
"Mae'n gyfle i'r ddwy lywodraeth, os ydi o wedi'i ddatganoli neu ddim, mae'n gyfle mor fawr ond mae mor heriol, fy mod i'n meddwl fod lle i'r llywodraethau i gyd-weithio."
Dywedodd Mr Jones fod angen gwelliannau i un o borthladdoedd Cymru erbyn 2025 neu 2026 fan hwyraf er mwyn denu'r buddsoddiad.
"Mae yna wir beryg y bydd yn rhaid i ni fynd i rywle arall os nad ydi'r porthladdoedd yma yn barod.
"Mae'n amserlenni ar gyfer y prosiectau yn dynn iawn, ac yn anffodus, mae hi'n bosib y bydd y cyfleoedd yna yn diflannu."
Mae Ian Price o CBI Cymru yn cytuno bod angen gweithredu ar frys os ydi Cymru'n mynd i elwa o gyfres o gyfleoedd.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud job dda yn ystod y pandemig o wneud pethau yn gyflym ac mae'n rhaid iddyn nhw barhau 芒 hynny.
"Y peryg ydi y byddwn ni'n cael ein gadael ar 么l a bydd pobl yn symud i lefydd eraill.
"Mae yna enghreifftiau o'r gorffennol lle'r ydan ni wedi colli buddsoddiad ac mae'n rhaid osgoi hynny yn y dyfodol."
Ymateb y ddwy lywodraeth
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn cydweithio yn agos gyda Llywodraeth y DU ar gyfres o faterion sy'n bwysig i Gymru. Serch hynny, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU barchu datganoli a r么l Llywodraeth Cymru.
"Yn ystod y pandemig Covid-19, mae busnesau Cymreig wedi elwa o ddefnyddio datrysiadau Cymreig, sydd wedi'u cynllunio i adeiladu ar gymorth Llywodraeth y DU.
"Mae ein hymrwymiad i fusnesau Cymreig a chynorthwyo mewnfuddsoddiad yn glir.
"Dangosodd ffigyrau gafodd eu cyhoeddi'r wythnos hon mai Cymru oedd unig wlad y DU i weld cynnydd yn nifer y prosiectau mewnfuddsoddiad dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae hynny'n diogelu 7,000 o swyddi, diolch i gymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae pobl a busnesau ledled Cymru am weld gwleidyddion yn cyd-weithio.
"Dyna pam ein bod ni wedi darparu 拢8.6bn yn rhagor i Lywodraeth Cymru ers dechrau'r pandemig i'w helpu i ymateb i'r heriau maen nhw wedi'u hwynebu.
"Mae Llywodraeth y DU wedi cefnogi miloedd o gwmn茂au a gweithwyr Cymreig drwy'r cynlluniau sy'n gweithredu drwy'r DU fel ffyrlo, cefnogaeth i'r hunangyflogedig, rhyddhad TAW a benthyciadau.
"Rydym wedi gweithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig a bydd hynny'n parhau wrth i ni adeiladu'r economi yn 么l yn well ac yn gryfach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020