Ateb y Galw: Yr artist Mari Elen Jones
- Cyhoeddwyd
Yr artist Mari Elen Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Megan Hunter yr wythnos diwethaf.
Mae Mari Elen Jones yn wneuthurwr theatr, un o dri aelod Cwmni'r Tebot a chrëwr podlediad Gwrachod Heddiw. Mae Mari yn wreiddiol o Harlech ond bellach yn byw yng Nghwm y Glo gyda'i phartner a'i dau fab.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i dÅ· Nain a Taid Moi ym Mlaenau Ffestiniog pob dydd Sul. Dim atgof penodol, jest cyfle pob wythnos i weld fy nghefndryd a fy nghyfnitherod (mae 'na lot ohonom ni) a chael chwarae a bwyta bwyd lyfli Nain, oedd hi'n gneud y pwdin reis gora' yn y byd!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mwy o ddiwrnod na noson, ond Twrw trwy'r dydd, Clwb Ifor Bach, rhywbryd yn 2015. O'n i'n DJeio hefo fy ffrind Elan Evans, oedd 'na fandiau anhygoel yn chwarae trwy'r dydd a lot o ffrindiau da yna. Ac fel oedd hi'n nosi ces i adael i fynd i wylio Belle and Sebastian (fy hoff fand erioed) yn chwarae yn Neuadd Dewi Sant, ac yna nôl i Clwb. Oedd o jest yn ddiwrnod hollol class.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Uchel fy nghloch.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan rois i enedigaeth i fy mab fenga, Mabon. Do'n i'm yn chwerthin ar y pryd yn amlwg, ond wrth feddwl nôl mi oedd o'n brofiad mor swreal. Nath y digwyddiad fy ysbrydoli i sgwennu comedi fer nes i berfformio yn Galeri fel ran o Noson yng Nghwmni Tebot hefo Mared Llywelyn a Llyr Titus. Dwi'n licio ffeindio pethau sydd yn ddoniol mewn digwyddiadau dwys neu trawmatig, meddwl mae dyna sut dwi'n ymdopi hefo pethau.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae 'na ormod, lot gormod. Ond un o'r rhai cynharaf oedd pan nes i ddisgyn yn dosbarth Daearyddiaeth yn blwyddyn 8, a hogyn o'n i'n ffansio yn helpu fi fyny ...A nes i bwmpian. (Sori os mae'r stori yna'n afiach).
Beth ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?
PRIODI!!! Oedd Lew a finnau fod i briodi yn 2019 ond wnaethon ni ddisgyn yn feichiog, felly dyma ni'n ail drefnu i briodi yn 2020, yna 2021… ond 'da'n ni'n edrych ymlaen at gael priodas fawr yn 2022!
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dyma lun o'n gwahoddiad priodas ni (sydd dal heb ddigwydd) gan Sioned dyluniadau Swi. Mi oedd hi'n bwysig iawn i ni fel cwpwl cael gwahoddiad oedd yn dathlu ein perthynas ni, a pan ti'n edrych ar y gwahoddiad, ti'n ffeindio rhywbeth newydd sydd yn berthnasol i'n hanes ni.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nos Wener ddiwethaf. Ges i fynd i Pontio i wylio sioe Faust + Greta, sioe cydweithredol rhwng Fran Wen, Theatr Genedlaethol a Pontio. Mi oedd o'n brofiad emosiynol cael bod mewn gofod theatraidd eto, a chael gweld perfformiad mor ddirdynnol gan gast cymunedol. Oedd y cyfarwyddyd, y set a'r llwyfannu mor grefftus a chynnil, es i hollol dan deimlad.
O archif Ateb y Galw:
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Siopa. O'n i'n arfer bod yn ofnadwy, a'n gwario'n student loan i gyd ar ddillad. Yn fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol, mi oedd gen i ddwy job ar ben loan, ac o'n i dal yn sgint am bo' fi methu rheoli fy hun ar stryd fawr Caerdydd. Dwi lot gwell rŵan, am bo fi'n llawer mwy cydwybodol am yr effaith mae dillad yn cael ar yr amgylchedd. Ond 'dwi'n goro stopio'n hun yn aml.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'm yn hoffi caws, yn enwedig ar fy mhitsa, dwi'n dueddol o gael pitsa heb gaws arna fo.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i Å´yl Greenman hefo nheulu a'n ffrindiau. A bwyta lot o fwyd Mecsicanaidd a peis.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Tŷ Mam a Dad yn Harlech. Maen nhw'n byw yn y topia yn edrych draw at Ben Llŷn, ac mae o jest y lle gorau erioed. Dwi'n teimlo'n eithriadol o freintiedig am fy mod wedi cael fy magu wrth lan y môr, a nes i deimlo hiraeth enfawr yn ystod y cyfnod clo.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Beyonce. Dwi'n obsesd hefo hi. Dwi jest 'isio'r gallu a'r talent sydd chanddi hi. Gwylio fideos Beyonce yn perfformio'n fyw achubodd fi yn ystod y lockdown cyntaf.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Tu ôl i'r awyr gan Megan Hunter. Dwi erioed 'di gallu uniaethu hefo llyfr gymaint. Mae Megan yn anhygoel am sgwennu, a dwi jest llawn edmygedd. Dwi hefyd wrth fy modd hefo Podlediad Colli'r Plot hefo Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros, Dafydd Llewelyn, Siân Northey. Mae nhw mor ddiddorol, ac yn teimlo fel cwmni.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Michaela Coel. Mae hi'n athrylith sydd yn haeddu pob gwobr dan haul am ei drama I May Destroy You. Mi faswn i wrth fy modd cael mynd am beint hefo hi, pigo'i bren hi a rhoi'r byd yn ei le.
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Mirain Iwerydd.