大象传媒

Cyhoeddi rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2021

  • Cyhoeddwyd
Cloriau'r llyfrau ar y rhestr ferFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

Cafodd enwau'r 12 llyfr Cymraeg eu datgelu am y tro cyntaf ar raglen Stiwdio 大象传媒 Radio Cymru nos Lun.

Mae'r gwobrau yn cael eu rhoi o fewn pedwar categori gwahanol sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.

Bydd enillydd pob categori'n derbyn gwobr o 拢1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn 拢3,000 yn ychwanegol.

Bydd rhestr fer ar gyfer y llyfrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi ar raglen 大象传媒 Radio Wales Arts Show nos Wener.

Yn ogystal bydd y teitlau ar y rhestr yn cystadlu am wobr Barn y Bobl. Y cyhoedd sydd yn dewis yr enillydd yma a Wales Art Review a Golwg360 sydd yn trefnu'r wobr.

Rhestr Fer Gymraeg 2021

Gwobr Farddoniaeth

Dal i Fod, Elin ap Hywel (Cyhoeddiadau Barddas)

rhwng dwy lein dr锚n, Ll欧r Gwyn Lewis (Hunan Gyhoeddedig)

Mynd, Marged Tudur (Gwasg Carreg Gwalch)

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwobr Farddoniaeth

Gwobr Ffuglen

Wal, Mari Emlyn (Y Lolfa)

Tu 么l i'r awyr, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Twll Bach yn y Niwl, Llio Elain Maddocks (Y Lolfa)

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwobr Ffuglen

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Ymbapuroli, Angharad Price (Gwasg Carreg Gwalch)

Darllen y Dychymyg: Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Siwan M. Rosser (Gwasg Prifysgol Cymru)

O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards, Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer)

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Ble Mae Boc? Ar goll yn y chwedlau, Huw Aaron (Y Lolfa)

#Helynt, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Y Castell Siwgr, Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Ffynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

Y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni yw'r bardd a'r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn Fardd Plant Cymru Anni Ll欧n; yr awdur, academydd a'r darlithydd Tomos Owen; a'r comed茂wr a'r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Anni Ll欧n: "Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron.

"Mae'r rhestrau byr yn ddathliad o'r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o'r rhain rhywbeth o werth i'w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i'w darllen.

"Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o'r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020.

"Ond dylem i gyd ymfalch茂o yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt."

Bydd enillwyr bob categori ac enillydd Llyfr y Flwyddyn yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar 大象传媒 Radio Cymru rhwng dydd Llun 2 a dydd Mercher 4 Awst.

Mae gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr 芒 thalentau newydd.

'Cynnig cysur a chwmn茂aeth'

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Mae'r rhestr fer hon yn adlewyrchu ystod o leisiau aruthrol awduron Cymru, yn ystod cyfnod eithriadol o anodd.

"Mae nifer ohonom wedi dianc rhwng cloriau llyfr da yn ystod y deunaw mis diwethaf, ac mae cynnyrch y rhestr fer hon yn sicr wedi cynnig cysur a chwmn茂aeth i sawl darllenydd."

Bydd yr enillwyr yn y categor茂au Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar raglen 大象传媒 Radio Wales Arts Show nos Wener o 6.30yh ymlaen.

Y beirniaid ar gyfer y gwobrau hyn yw'r bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a'r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o D欧'r Arglwyddi, siaradwr cymhelliant a'r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a'r academydd, awdur ac actifydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Bydd enillydd pob categori yn y ddwy iaith yn derbyn gwobr o 拢1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn 拢3,000 yn ychwanegol.

Yn ogystal 芒 hyn bydd pob enillydd yn derbyn tlws Llyfr y Flwyddyn sydd wedi'i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Pynciau cysylltiedig