大象传媒

Canolfannau brechu i agor ar sail 'galw i mewn'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Person ifanc yn cael brechlyn Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hyd yn hyn mae 75% o bobl dan 50 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn.

Bydd canolfannau brechu mewn sawl lleoliad yng Nghymru ar agor ar sail galw i mewn o'r penwythnos hwn ymlaen, yn 么l Gweinidog Iechyd Cymru.

Mae Eluned Morgan yn galw ar bob oedolyn i gael eu brechu ac yn annog unrhyw un dros 18 oed i fanteisio ar y cyfle i gael eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 heb fod angen gwneud apwyntiad o flaen llaw.

Hyd yn hyn mae 75% o bobl dan 50 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn.

Dywedodd Ms Morgan: "Fe ddylai pob oedolyn yng Nghymru bellach fod wedi cael cynnig y brechlyn, ond rydyn ni'n gwybod y gallai pobl fod wedi gorfod canslo eu hapwyntiadau, neu efallai eu bod wedi methu mynd iddynt, mewn rhai achosion."

'Gadael neb ar 么l'

"Rydyn ni am ei gwneud mor hawdd 芒 phosibl i bobl gael eu brechlyn, yn enwedig oedolion iau sydd 芒 galwadau eraill ar eu hamser.

"Yng Nghymru mae gennym bolisi 'gadael neb ar 么l' ac mae sicrhau bod apwyntiadau galw i mewn ar gael yn ffordd arall o sicrhau bod brechiad ar gael i bob oedolyn ar amser ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, yn annog pobl ifanc i fanteisio ar gael eu dos cyntaf o frechlyn Covid heb fod angen apwyntiad

"Cael ein brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain o hyd ac mae angen i bawb barhau i gytuno i gael eu brechu a cofio nad yw un dos yn ddigon."

Ychwanegodd Ms Morgan bod angen dau ddos ar bawb er mwyn lleihau'r perygl o salwch difrifol.

"Rwy'n eich annog yn daer i fanteisio ar y cyfle i gael brechiad i helpu i amddiffyn eich hunain a'ch anwyliaid ac i ddiogelu Cymru," meddai.

Dywedodd Tracy Meredith, Pennaeth Gweithrediadau Profi a Brechu Torfol:

"Rydyn ni'n gweithio'n galed iawn ar draws canolfannau brechu yng Nghymru i sicrhau ei bod hi mor gyflym a chyfleus 芒 phosibl i bobl, ac rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi gwneud eu rhan a dod i gael eu brechu.

"Os ydych chi eisiau eich ail ddos yn gynharach, neu os nad ydych chi wedi cael eich dos cyntaf eto, mae'n gyfle gwych i alw heibio'r penwythnos hwn, i gael eich brechlyn a chael eich amddiffyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cameron Fleming, sy'n fyfyrwir yn y brifddinas, wedi'i hyfforddi i frechu

Mae myfyrwyr meddygol ymhlith y rhai sydd wedi cael hyfforddiant i roi brechlynnau ym Mae Caerdydd.

Dywed un o'r myfyrwyr, Cameron Fleming, fod nifer wedi newid meddwl am gael y brechlyn - wedi penderfynu gwrthod i ddechrau ac yna o blaid ac felly wedi dod i ganolfan galw i mewn.

Lleoliadau brechu torfol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dydd Sadwrn 3 Gorffennaf: Canolfan Hamdden Casnewydd, 08:30 - 16:00 (dosau cyntaf i bobl dros 18 oed)

Canolfan Hamdden Trecelyn: 08:30 - 13:30 (dosau cyntaf i bobl dros 18 oed)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bydd yr holl ganolfannau brechu torfol yn derbyn pobl ar sail cerdded i mewn ar bob adeg

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Canolfan Brechu Torfol y Bae: 08;00 - 16:00 bob dydd Sadwrn a dydd Sul (dosau cyntaf i bobl dros 18 oed)

Canolfan Hamdden Holm View: 08:30 - 19:30, 2 - 4 Gorffennaf (dosau cyntaf i bobl dros 18 oed)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Bydd yr holl ganolfannau brechu torfol yn derbyn pobl ar sail cerdded i mewn ar bob adeg o 5 Gorffennaf ymlaen (dosau cyntaf i bobl dros 18 oed)

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Bydd yr holl ganolfannau brechu torfol yn derbyn pobl ar sail cerdded i mewn ar bob adeg o'r wythnos hon ymlaen (dosau cyntaf ac ail i bobl dros 18 oed)

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Nid yw apwyntiadau ar sail cerdded i mewn yn cael eu cynnig ar hyn o bryd oherwydd derbyniad uchel a phoblogaeth isel

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Yr Immbulance yn City Church Abertawe: 09:00 - 16:00 ar ddydd Sadwrn yn cynnig brechlyn Oxford-AstraZeneca i unrhyw un dros 40 oed. Bydd trafnidiaeth am ddim i Ganolfan Brechu Torfol Bae Abertawe i'r rhai o dan 40 oed.

Ysbyty Bay Field: dydd Sul 10:00 - 18:00 (dosau cyntaf i bobl 18 - 39 oed)