大象传媒

Addysg yn 'allweddol' i fynd i'r afael 芒 hiliaeth criced

  • Cyhoeddwyd
Mohsin Arif
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Honnodd Mr Arif na gafodd yr un cyfleoedd 芒 chwaraewyr eraill pan gafodd ei ddewis ar gyfer ail d卯m Morgannwg yn 2005

Mae cyn-gricedwr Morgannwg a gyhuddodd y clwb o hiliaeth sefydliadol yn dweud ei fod yn credu bellach bod y clwb yn ceisio cefnogi cricedwyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig i chwarae ar y lefel uchaf.

Fe wnaeth Mohsin Arif, sy'n 36 oed ac o Gaerdydd, gyfarfod 芒 phrif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, i drafod ei brofiadau.

Mewn erthygl yn The Telegraph y llynedd, fe honnodd bod chwaraewyr gwyn yn cael eu trin yn ffafriol.

"Rwy'n credu fy mod yn bendant yn gweld [Morgannwg] yn ceisio dymchwel rhwystrau," meddai Mr Arif, a ddychwelodd i Gymru'n ddiweddar ar 么l gweithio yn Dubai fel hyfforddwr criced proffesiynol.

Dywedodd Mr Arif bod Hugh Morris "yn wrand盲wr da, ac roedd yn deall yn union o ble roeddwn i'n dod. Ni geisiodd gyfiawnhau unrhyw beth.

"Dywedodd hefyd y gallen nhw geisio gwella cysylltiadau gyda'r gymuned BAME a dysgu oddi wrtha' i a fy mhrofiadau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mohsin Arif bod addysg yn allweddol i helpu hyfforddwyr a chwaraewyr ddysgu mwy am wahanol ddiwylliannau

Yn 么l Mr Arif roedd yna ddiwylliant o fethu 芒 rhoi'r un ymdeimlad o berthyn i chwaraewyr o gefndiroedd ethnig ag i chwaraewyr gwyn. Mae hefyd wedi cyhuddo cyn-gyd-chwaraewr ym Morgannwg o gamdriniaeth hiliol tuag ato yn ystod g锚m gynghrair.

Mae'n credu mai addysg yw'r allwedd i wella'r sefyllfa er mwyn helpu hyfforddwyr a chwaraewyr i ddysgu mwy am wahanol ddiwylliannau.

"Mae'n debyg nad oedden nhw wedi arfer cael rhywun sy'n Fwslim fel rhan o'r amgylchedd hwnnw. Doedden nhw ddim yn gwybod yn ddiwylliannol o ble y des i, na fy magwraeth a oedd yn geidwadol iawn a mor wahanol i fagwraeth y mwyafrif o bobl yn ne Cymru.

"Doedden nhw ddim wir eisiau dod i fy nabod. Roeddwn i'n teimlo pe bydden nhw wedi dod i'm hadnabod, bydden nhw wedi sylweddoli nad ydw i wir yn wahanol i unrhyw un arall.

"Rwy'n Fwslim gweithredol, a thra roeddwn yn teithio, 'nes i'n si诺r fy mod yn gwedd茂o pan oedd yn amser gwedd茂au.

"Hefyd roedden nhw eisiau mynd allan i yfed [alcohol] ond fyddwn i ddim yn gwneud hynny na bod yn rhan ohono. Roedd yn ymddangos eu bod wedi camddeallt hynny a meddwl 'dydy ei ddim mo'yn dim byd i wneud 芒 ni neu falle mae'n ein hanwybyddu'n fwriadol'.

"Roedd yn rhywbeth yr oeddwn yn rhy swil i siarad amdano, debyg, oherwydd pan rydych chi'n gyffyrddus mewn unrhyw sefyllfa, gallwch siarad am y peth ychydig mwy."

Sefydlu gweithgor

Dau o chwaraewyr presennol Morgannwg - Prem Sisodiya a Kiran Carlson - yw'r chwaraewyr cyntaf o dras Asiaidd Prydeinig wedi eu geni yng Nghymru i chwarae i d卯m cyntaf y sir, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant eleni.

Mae bron i ddau draean o'r 600 o gricedwyr sy'n chwarae yng Nghynghrair Criced Canol Wythnos Caerdydd yn Asiaidd Prydeinig.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Morgannwg eu bod yn mynd i'r afael 芒'r pryderon i sicrhau bod y clwb yn gynhwysol

Mae dau gyfarwyddwr Prydeinig Asiaidd wedi'u penodi i fwrdd y clwb, a gweithgor wedi'i sefydlu i wella'r cysylltiadau'r clwb 芒 chymunedau lleiafrifoedd ethnig.

Mae'r clwb hefyd yn gofyn i bobl ymateb i sy'n ceisio "deall profiadau pobl o gefndiroedd ac ethnigrwydd amrywiol a'u rhyngweithio gyda'r clwb".

'Addysg yn hytrach na chosbi'

Mae eraill wedi mynegi pryderon bod hiliaeth yn parhau'n broblem yng nghriced ar draws Prydain. Mae chwaraewyr gan gynnwys batiwr Lloegr, Michael Carberry, a chyn-gapten dan 19 oed Lloegr, Azeem Rafiq, a'r dyfarnwyr John Holder ac Ismail Dawood, wedi siarad am eu profiadau o hiliaeth yn y g锚m.

Fis diwethaf cafodd bowliwr cyflym Lloegr, Ollie Robinson, ei atal gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) o griced rhyngwladol tra bo ymchwiliad i negeseuon Twitter sarhaus a gyhoeddodd yn ei arddegau.

Mae rhai, fel Michael Carberry, yn credu y dylai Robinson golli ei yrfa rhyngwladol. Ond mae Mr Arif o'r farn y dylai'r ECB ganolbwyntio ar addysg, yn hytrach na chosbi.

"Mae o [Robinson] yn ddynol. Mi wnaeth gamgymeriad. Rhoddodd ei ddwylo i fyny a dweud 'mae'n ddrwg gen i'. Roedd yn blentynnaidd ac yn anaeddfed ond rwy'n teimlo y dylid rhoi cyfle iddo brofi ei hun.

"Nid wyf yn credu y dylai golli ei gontract oherwydd mae hynny'n newid bywyd. Rydyn ni'n barod iawn i farnu, ond yn araf iawn i faddau.

"Fe ddigwyddodd ddeng mlynedd yn 么l ac rwy'n si诺r ei fod wedi newid ac rwy'n si诺r ei fod wedi aeddfedu, fel rydyn ni i gyd yn ei wneud."

Pynciau cysylltiedig