Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Atal treialu cerbydau'r fyddin dros dro
Mae treialon ar gyfer cerbydau arfog newydd y fyddin wedi eu hatal eto wedi cwynion bod y s诺n yn cael effaith ar y criw.
Mae cerbydau Ajax yn cael eu rhoi at ei gilydd gan gwmni General Dynamics ym Merthyr Tudful.
Y nod yw darparu "cerbydau ymosod cwbl fodern i'r fyddin".
Dyma'r eildro i'r gwaith o dreialu y cerbydau newydd 拢5.5bn gael ei atal wedi cwynion am y s诺n.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai'r gwaith yn dod i ben am y tro wedi pryderon newydd.
Wrth gyhoeddi'r newyddion dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Jeremy Quin, bod y rhaglen yn un "drafferthus".
Mae'r Blaid Lafur wedi annog y llywodraeth i "gael trefn ar y gwaith wrth iddo fod yn un llanast sy'n stopio ac yn ailddechrau".
Fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn arwyddo cytundeb ar gyfer 589 o'r cerbydau arfog Ajax yn 2014 ac mae nhw eisoes wedi gwario 拢3.5bn ar y gwaith.
Dywedodd llefarydd ran General Dynamics UK bod ganddynt hyder "yng nghynllun y cerbyd" a bod y weinyddiaeth wedi dweud wrth y cwmni bod y gwaith cydosod wedi'i "atal dros dros dro".