大象传媒

Caniat芒d i osod Jac yr Undeb wyth llawr yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
William Morgan House
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd yr arwydd yn cael ei osod ar gornel adeilad newydd T欧 William Morgan

Mae baner Jac yr Undeb wyth llawr o faint wedi cael caniat芒d i gael ei rhoi ar swyddfeydd newydd Llywodraeth y DU yng nghanol Caerdydd.

Penderfynodd swyddogion cynllunio Cyngor Caerdydd gymeradwyo'r arwydd finyl sy'n mesur 32 metr o uchder a naw metr o led.

Bydd yr arwydd yn cael ei osod ar ffenestri ar ochr yr adeilad fydd yn gartref i swyddfeydd trethi Llywodraeth y DU yn ardal sgw芒r canolog y brifddinas.

Yn ogystal 芒'r swyddfeydd trethi, sy'n symud o D欧 Glas yn Llanisien, bydd yr adeilad newydd T欧 William Morgan hefyd yn gartref i Swyddfa Cymru.

Cyn y pandemig roedd cynlluniau i 4,000 o bobl weithio o'r swyddfeydd newydd.

Dywedodd swyddogion cynllunio, er bydd yr arwydd yn un mawr, ei fod "o faint addas o ystyried maint llawn yr adeilad".

Ychwanegodd adroddiad gan swyddogion y cyngor fod hysbyseb mawr yn yr ardal ger Plaza'r Mileniwm eisoes wedi ei gymeradwyo.

Ffynhonnell y llun, HMRC/AECOM

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae T欧 William Morgan yn adeilad sylweddol o ran Llywodraeth y DU, ac y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

"Mae'n arferiad gyda safleoedd tebyg o eiddo Llywodraeth y DU, ledled y Deyrnas Unedig a'r byd, i ddangos Jac yr Undeb fel rhan o'm brandio.

"Mae baner Cymru yn cael ei chwifio yn adeilad T欧 Wiliam Morgan, sydd hefyd 芒 brandio arall sy'n benodol ar gyfer Cymru.

"Roedd enw'r adeilad newydd wedi ei ddewis i adlewyrchu buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghymru a diwylliant Cymreig."

Pynciau cysylltiedig