大象传媒

Cam allweddol i fenter Ty'n Llan yn Llandwrog

  • Cyhoeddwyd
ty'n llan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pobl leol yn ardal Llandwrog ydy perchnogion newydd tafarn Ty'n Llan

Wedi iddyn nhw lwyddo i godi dros 拢400,000 i brynu hen dafarn y pentref, mae trigolion Llandwrog ger Caernarfon bellach wedi cael y goriadau i'r adeilad.

Bwriad y fenter nawr ydy ceisio denu grantiau er mwyn gallu gwneud gwaith adnewyddu sylweddol i dafarn hanesyddol Ty'n Llan.

Mae aelodau'r fenter, hyd yn oed, wedi eu synnu gan lwyddiant yr ymgyrch codi arian a gafodd gefnogaeth gan enwogion fel yr actor Rhys Ifans a'r cyn-chwaraewr rygbi Shane Williams.

"Roedden ni wedi rhyfeddu," meddai Angharad Gwyn, aelod o'r pwyllgor.

"Y targed gwreiddiol oedd 拢400,000, ond erbyn hanner nos ar y dyddiad cau, roedden ni wedi cyrraedd dros 拢460,000, a rydan ni wrth ein boddau wrth gwrs."

Dim ond 400 o bobl sydd yn byw yn Llandwrog, ond yn ogystal a chefnogaeth gref yn lleol, mae pobl o bob rhan o'r byd wedi cyfrannu.

Atgyweirio a datblygu

Y bwriad ydy agor yn rhannol o fewn y misoedd nesaf.

"Da ni'n gobeithio cynnal digwyddiad lleol, i'r pentre, yn yr ardd mewn rhyw bythefnos", meddai Ms Gwyn, "a'r gobaith ydy cynnal ychydig mwy o ddigwyddiadau wedyn dros yr haf, ella ystyried ailagor tu mewn mewn rhyw gapasiti yn ystod tymor y gaeaf."

Y cam wedyn, os bydd ceisiadau am grantiau yn llwyddiannus, fydd gwneud gwaith atgyweirio a datblygu yr adeilad yn sylweddol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Angharad Gwyn fod cefnogaeth wedi cyrraedd o bedwar ban byd

"Da ni'n gobeithio gwneud estyniad ar y cefn, a chreu creu bwyty, caffi, a datblygu'r lloftydd sydd uwchben y bar ar hyn o bryd, sydd ddim wedi cael eu defnyddio ers blynyddoedd," meddai Wyn Roberts o'r pwyllgor.

"Rydan ni'n gobeithio cynnal nifer o wasanaethau yma, ond mae hynny'n ddibynnol ar ddenu mwy o bres, a mwy o grantiau, a mi fyddwn ni'n symud ymlaen i wneud ceisiadau am grantiau yn ystod y misoedd nesaf."

Ychwanegodd: "Mae'r lle 'di cau ers tair blynedd a hanner, a dwi'n meddwl o'dd rhywun yn teimlo bod 'na rh'wbeth ar goll yng nghanol y pentra - efo Covid mae'r flwyddyn a hanner dwytha ma wedi amlygu pa mor bwysig ydy hi ein bod ni'n cael rh'wle yng nghanol pentra, yng nghanol tre, yng nghanol rh'wla fel bod gynnon ni rh'wle i gyfarfod, i gael sgwrs, cael peint, cael pryd o fwyd efo ffrindiau neu deulu."

Pynciau cysylltiedig