大象传媒

Dryswch profion Covid yn arwain at fethu achosion?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dr Sayma Ahmed
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl ychydig yn ddryslyd pryd i wneud pa brawf, meddai'r meddyg teulu Dr Sayma Ahmed

Mae rhai meddygon teulu yn pryderu y gallai dryswch ynghylch pa brawf Covid i'w gymryd pan fydd pobl yn arddangos symptomau olygu bod achosion yn "cael eu methu".

Dywed un meddyg teulu yng Nghaerdydd, Dr Sayma Ahmed, ei bod yn clywed mwy a mwy o gleifion yn dweud eu bod wedi gwneud profion llif unffordd, pan ddylen nhw fod yn archebu'r prawf PCR mwy cywir.

Dywedodd: "Mae pobl yn dweud 'Mae gen i symptomau, ond peidiwch 芒 phoeni, rydw i wedi gwneud prawf llif unffordd', sy'n wych gan eu bod yn gweithredu pan fo'r angen, ond yn anffodus, nid dyma'r prawf cywir."

Yn 么l Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Chris Jones, byddai'n "bryderus" pe bai pobl symptomatig yn defnyddio profion llif unffordd, ac yn "cael canlyniad negyddol, a chymryd eu bod yn iawn, ond eu bod yn parhau i heintio eraill o'u cwmpas".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dau brawf gwahanol am Covid-19 - llif unffordd a PCR

Mae profion llif unffordd yn cael eu defnyddio mewn gweithleoedd ac mewn digwyddiadau i weld a oes gan bobl Covid-19 heb ddangos unrhyw symptomau.

Mae'n ffordd o ddod o hyd i achosion a allai, fel arall, gael eu colli. Ond nid ydynt mor ddefnyddiol i bobl sydd 芒 symptomau Covid.

Eglurodd Dr Jones: "Y prawf PCR yw'r prawf mwy cywir, ac os oes gennych symptomau, dyna'r prawf y mae angen i chi ei gael oherwydd bydd yn fesur dibynadwy o os oes gennych Covid ac a ydych yn heintus i eraill.

"Mae'r prawf dyfais llif unffordd yn brawf llai sensitif, ac efallai na fydd yn rhoi canlyniad dibynadwy os oes gennych chi symptomau.

"Gallai prawf dyfais llif unffordd fod yn negyddol yn hawdd pan fyddwch yn dal yn heintus i bobl eraill, felly gallai roi sicrwydd ffug i chi."

Ffynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Dr Ahmed, sy'n aelod o Feddygon Mwslimaidd Cymru, wedi tynnu sylw at y mater ar 么l siarad 芒 chydweithwyr oedd yn sylwi ar yr un broblem.

"Maen nhw'n dweud yr un peth. Mae pobl ychydig yn ddryslyd pryd i wneud pa brawf. Mae cynifer yn cynnal profion llif unffordd ac yna'n parhau i gymysgu," meddai.

"Rwy'n poeni bod achosion yn cael eu methu oherwydd, yn anffodus, mae pobl yn cael y sicrwydd ffug hwnnw o'r prawf llif unffordd ac yn parhau 芒'u bywyd bob dydd."

Dywedodd Dr Jones ei fod yn deall pam fod rhai pobl wedi drysu ond bod "neges glir".

"Os oes gennych symptomau, gyda thymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli blas neu arogl, mae'n rhaid i chi archebu prawf PCR," meddai.

"Gallwch naill ai ei archebu ar-lein neu drwy ffonio 119. Bydd y prawf naill ai'n cael ei anfon i'ch cartref neu gallwch fynd i ganolfan i wneud y prawf ac rydych chi'n hunan-ynysu ar wah芒n i hynny.

"Nid y prawf llif unffordd yw'r prawf cywir i'w ddefnyddio os oes gennych chi symptomau."