Swyddfa Ystadegau: Un farwolaeth wythnosol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd un farwolaeth yn gysylltiedig 芒 Covid-19 ei chofnodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 25 Mehefin, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yr wythnos flaenorol ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi, a hynny am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.
Mae ffigyrau marwolaethau Covid-19 yn parhau'n isel yng Nghymru gyda phedair marwolaeth yn gysylltiedig 芒'r haint wedi'u cofrestru yn y pedair wythnos ddiwethaf.
Ni fu marwolaeth Covid-19 o gwbl mewn pedair ardal bwrdd iechyd yn ystod y mis diwethaf - Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe.
Yn 么l y Swyddfa Ystadegau, hyd at 25 Mehefin bu farw 7,900 o bobl gyda Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Heintio mewn ysbytai
Yn 么l ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C, cafodd chwarter y rhai sydd wedi marw o Covid-19 yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty.
Roedd 1,860 - neu 24.4% - o'r rhai fu farw gyda Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth rhwng dechrau'r pandemig a 1 Mai eleni "yn sicr" neu'n "debygol" o fod wedi eu heintio yn yr ysbyty.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod cyfanswm y marwolaethau o unrhyw achos yn is na'r cyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae'r ffigyrau yma, yn wahanol i rai Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnwys achosion ble mae meddygon yn amau bod Covid wedi cyfrannu at y farwolaeth, hyd yn oed os nad ydy'r person wedi cael prawf - gan gynnwys marwolaethau sydd wedi digwydd yng nghartrefi pobl, cartrefi gofal a hosbisau.
Dim ond achosion ble mae claf wedi cael prawf positif am Covid-19 sy'n cael eu cyfrif yn ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond mae'r data hynny yn cael ei ddiweddaru yn fwy cyson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021