大象传媒

Sbectol arbennig i gricedwr ifanc lliwddall o Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Colourblind cricketer Charlie Jones, 11
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Charlie Jones 11 oed yn lliwddall ac mae hynny'n gallu bod yn anodd i gricedwr

I berson lliwddall mae chwarae criced yn gallu bod yn anodd gan nad yw'n hawdd gwahaniaethu rhwng y glaswellt 芒'r b锚l goch.

Dyna brofiad Charlie Jones, cricedwr 11 oed, sy'n byw gyda chyflwr Deutan. Ond yn ddiweddar mae wedi cael sbectol arbenigol i'w helpu i wahaniaethu rhwng y lliwiau.

Roedd ei hyfforddwr Gareth Roberts yn hynod o awyddus i'r bachgen ifanc barhau i chwarae ac fe drefnodd bod cwmni Enchroma yn darparu sbectol arbenigol iddo.

Dywedodd Charlie o Wrecsam a sy'n chwarae i Glwb Criced Brymbo: "Mae'r sbectol wedi gwneud gwahaniaeth mawr - cynt doeddwn i methu gwahaniaethu rhwng y b锚l 芒'r gwair, roedd y lliwiau yn ymdoddi i'w gilydd.

"Dwi r诺an yn gallu gweld y b锚l - lle cynt roedd yn rhaid i fi chwilio am yr edau ar y b锚l er mwyn ei gweld."

'Methu gwahaniaethu rhwng coch a gwyrdd'

Tan yn ddiweddar roedd Charlie yn chwarae criced gyda ph锚l felen - ac roedd hynny yn haws i'w lygaid.

Ond wrth iddo symud i lefel uwch roedd yn rhaid defnyddio y b锚l goch galed draddodiadol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Charlie gyda'i rieni Joanne Evans Jones a Darren Jones

Pan ddaeth clwb Charlie a'r hyfforddwr yn ymwybodol o'r mater fe chwiliont o ddifri' am ffyrdd i'w helpu.

Dywedodd yr hyfforddwr: "Roedd o wir eisiau chwarae ac roeddwn yn hynod o awyddus iddo gael gwireddu ei freuddwyd a chael chwarae fel unrhyw blentyn arall."

Wedi gwaith ymchwil fe ddaeth y clwb o hyd i gwmni Enchroma sy'n arbenigo ar wneud sbectol i bobl lliwddall.

'Byd o liw'

Dyw'r sbectol ddim yn galluogi rhywun i weld yn hollol iawn ond maen nhw'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr ac yn galluogi person lliwddall i wahaniaethu rhwng lliwiau.

Dywed rhieni Charlie eu bod wrth eu bodd gyda'r hyn sydd wedi digwydd a bod Charlie bron yn gwisgo'r sbectol drwy'r adeg ar y dechrau.

Maen nhw hefyd wedi ei alluogi i wylio tenis - rhywbeth nad oedd yn gallu ei wneud cynt.

Dywedodd Joanne: "Fel ei rieni ry'n yn hynod ddiolchgar i Glwb Criced Brymbo ac i gwmni Enchroma am bob dim y maent wedi ei wneud. Mae byd Charlie wedi bod yn sepia ond bellach mae'n fyd o liw ac mae hynny'n rhyfeddol."

Pynciau cysylltiedig