大象传媒

Gwahaniaeth 'annheg' mewn costau profion PCR Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Awyren yn glanio ym Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dirwy o 拢1,000 i drigolion Cymru am ddefnyddio darparwr prawf preifat yn hytrach nag un swyddogol GIG Cymru

Mae teithwyr o Gymru wedi dweud ei fod yn "annheg" bod yn rhaid iddynt dalu mwy am brofion PCR Covid na theithwyr o Loegr, sef y profion sy'n ofynnol fel rhan o deithio rhyngwladol yn y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i bobl o Gymru ddefnyddio profion PCR y GIG, ble mae modd bwydo'r canlyniadau yn syth i system GIG Cymru.

Ond mae'r profion hyn yn costio 拢88 yr un neu 拢170 am ddau, tra bod modd defnyddio darparwr prawf o'ch dewis yn Lloegr, a thalu o dan 拢50 am un.

Yn ogystal 芒'r gost uwch, mae dirwy o 拢1,000 i drigolion Cymru am ddefnyddio darparwr prawf preifat yn hytrach na'r un swyddogol.

Beth yw'r drefn wrth deithio dramor?

Mae'r system Gymreig hefyd yn berthnasol i deithwyr sy'n hedfan i mewn ac allan o faes awyr mewn rhan arall o'r DU cyn dychwelyd i Gymru.

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig.

Dywedodd Helen Flowers, 41, o Ddinas Powys, Bro Morgannwg, ei fod yn "annheg" iddi orfod talu mwy am brofion PCR ar 么l hedfan o Faes Awyr Caerdydd na'r rhai sy'n byw dros y ffin ac yn hedfan o Faes Awyr Bryste.

"Dw i ddim yn cytuno efo'r peth, yn enwedig pan fydd y pris maen nhw [y GIG] yn ei ddyfynnu yn sylweddol uwch na darparwr arall," meddai.

Roedd Ms Flowers wedi sylwi ar y prisiau rhatach dros y ffin wrth ystyried teithio i Sbaen i ymweld 芒'i rhieni, ond mae hi bellach wedi gohirio'i thaith nes bod Llywodraeth Cymru yn llacio eu cyfyngiadau teithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar reolau teithio o wledydd ambr eto ond bydd penderfyniad yn cael ei wneud "maes o law"

Mae'n rhaid i deithwyr o Gymru gael tystiolaeth o brawf negyddol cyn teithio, ac mae'n ofynnol i bobl sy'n cyrraedd Cymru o dramor gael tystiolaeth eu bod wedi archebu profion gan y GIG i'w defnyddio ar 么l iddynt ddychwelyd.

Mae'r profion yn costio 拢88 am un ar gyfer dychwelyd o leoliadau rhestr werdd, a 拢170 am ddau ar gyfer dychwelyd o leoliadau rhestr ambr.

Os yn dychwelyd o leoliad rhestr ambr, mae'n rhaid i deithwyr gwblhau dau brawf: un erbyn yr ail ddiwrnod, ac un arall o'r wythfed diwrnod ymlaen. Mae'n rhaid iddynt hefyd hunan ynysu am 10 diwrnod.

Yn Lloegr, mae'n bosib i bobl dalu am brawf ar gyfer y pumed diwrnod o gwarant卯n - os yw'r prawf yn negyddol, nid oes yn rhaid iddynt gario ymlaen i hunan ynysu am y pump diwrnod sy'n weddill.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps, ddydd Iau na fydd disgwyl i drigolion y DU sydd wedi eu brechu'n llawn hunan ynysu wrth ddychwelyd i Loegr o leoliadau rhestr ambr fel Ffrainc a Sbaen.

Ond nid yw'n glir eto a fydd gweinidogion Cymru yn dilyn y cynllun hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn dod i mewn i'r DU mae'n rhaid i chi allu dangos tystiolaeth o brawf ar 么l cyrraedd. Dylid archebu profion trwy borth gwe CTM.

"CTM yw'r asiant archebu ar gyfer profion Diogelu Olrhain Prawf y GIG sy'n cael eu prosesu trwy rwydwaith Labordy Goleudai'r DU. Nid nhw yw darparwr y prawf.

"Mae'r pris ar gyfer y profion hyn gan y GIG yr un peth ledled y DU.

"Os byddwch chi'n cyrraedd Cymru heb dystiolaeth o archeb prawf, fe allech chi gael dirwy o 拢2,000.

"Os ydych chi'n cyrraedd Cymru ac wedi archebu profion gyda darparwr prawf preifat, fe allech chi gael dirwy o 拢1,000."