'Anodd peidio' rhoi dyddiad ar gyfer diwedd y cyfyngiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'n "anodd gweld" sut y gallai Llywodraeth Cymru osgoi gosod dyddiad ar gyfer dod 芒 chyfyngiadau Covid i ben, yn 么l cyn-Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Mae disgwyl i weinidogion amlinellu'r camau nesaf ar gyfer llacio'r rheolau yng Nghymru yr wythnos nesaf.
Mae Llywodraethau'r DU a'r Alban eisoes wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer codi'r mwyafrif helaeth o gyfyngiadau yn Lloegr a'r Alban.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn "dilyn trywydd pwyllog" o ran dod 芒 rheolau i ben.
'Pwysau i bennu dyddiad'
Mae'r Fonesig Deirdre Hine yn arbenigwr iechyd cyhoeddus blaenllaw ar 么l bod yn brif swyddog meddygol Cymru ar ddechrau'r 1990au, a chyn hynny sefydlodd y rhaglen sgrinio canser y fron Bron Brawf Cymru.
Cadeiriodd y Fonesig Deirdre ymchwiliad swyddogol y DU i bandemig y Ffliw Moch 2009 hefyd.
Mewn cyfweliad 芒 rhaglen 大象传媒 Politics Wales, dywedodd fod y cynllun i ddod 芒 chyfyngiadau i ben yn Lloegr ar 19 Gorffennaf yn "gambl mawr" i Lywodraeth y DU ac yn "gyfyng-gyngor mawr" i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn ddiweddar na fydd ei phenderfyniadau'n cael eu "gyrru gan ddyddiadau artiffisial".
"Byddant wrth gwrs yn dod o dan bwysau i bennu dyddiad ac mae'n anodd mewn rhai ffyrdd gweld sut y gallant ddianc, os mynnwch, heb bennu dyddiad," meddai'r Fonesig Deirdre.
"Mae ein cyfraddau brechu yn uwch, mae cyfradd yr haint yn ymledu'n is na rhannau o Loegr, felly gellir dadlau eu bod mewn sefyllfa well i wneud y penderfyniad hwnnw.
"A bydd hynny ynddo'i hun yn fath o bwysau arnyn nhw."
Fodd bynnag, ychwanegodd y Fonesig Deirdre fod ganddi hyder na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ei hymateb "cyson ofalus" drwy gydol y pandemig.
'Dim angen adolygiad Cymreig'
Mae cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn cynnwys dod 芒'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn rhai lleoliadau i ben.
Dywedodd y Fonesig Deirdre fod hynny'n "risg ddiangen" ac y dylai'r defnydd o orchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau aros yn orfodol.
"Dwi ddim yn meddwl, gyda'r ewyllys orau yn y byd, y gallwch chi ddibynnu ar bobl i gymryd eu barn eu hunain ar hyn," ychwanegodd.
Rhybuddiodd y Fonesig Deirdre hefyd y byddai'n cymryd "llawer o amser" i ddychwelyd i normalrwydd ac y bydd "ymhen amser lefel dderbyniol o farwolaethau" gan Covid.
Ac yn dilyn galwadau o'r newydd gan y gwrthbleidiau am ymchwiliad i edrych yn benodol ar yr ymateb yng Nghymru i'r pandemig, dywedodd y Fonesig Deirdre y byddai adolygiad o'r fath "yn gamgymeriad" gan na fyddai'n bosibl "datgysylltu ymateb Cymru o ymateb gweddill y DU".
Ond ychwanegodd fod angen adolygiad cynnar o'r pandemig "i roi rhai awgrymiadau ar sut y dylem fod yn edrych ymlaen".
"Bydd pandemig arall o ryw fath... mae angen i ni fod yn barod am hynny."
Cadarnhad i ddod ddydd Mercher
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn parhau i ddilyn trywydd pwyllog o ran llacio cyfyngiadau yng Nghymru er mwyn cadw pobl mor ddiogel 芒 phosib.
"O ganlyniad hynny ac ymdrechion pawb yng Nghymru, ni sydd 芒 chyfraddau coronafeirws isaf y DU.
"Mae gyda ni hefyd un o'r cyfraddau brechu uchaf drwy'r byd - gyda thros 70% o oedolion yng Nghymru wedi'u brechu'n llawn erbyn hyn.
"Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau canlyniad adolygiad diweddaraf y cyfyngiadau ddydd Mercher nesaf."
Gallwch wylio Politics Wales ar 大象传媒1 Wales am 10:00 ddydd Sul 11 Gorffennaf, neu ar wasanaeth 大象传媒 iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021