Cofnodi hanner can mlynedd Llwybr Clawdd Offa

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae llwybr Clawdd Offa yn croesi drwy wyth sir yng Nghymru ac yn croesi'r ffin 20 gwaith

Mae'n hanner can mlynedd ers agor llwybr Clawdd Offa ac mae'n hynod o bwysig i'w warchod, yn 么l yr artist sydd wedi'i gomisiynu i greu arddangosfa i nodi'r pen-blwydd.

Mae Dan Llewellyn Hall wedi cerdded y llwybr 177 milltir ac mae'n dweud bod rhannau o'r llwybr wedi'u hesgeuluso yn fawr ar hyd y blynyddoedd.

Mae Cymdeithas Clawdd Offa wedi sefydlu cronfa i'w ddiogelu.

Dywed Mr Hall bod y llwybr yn cynrychioli "diwylliant y ffin" yng Nghymru.

Cafodd Clawdd Offa ei godi yn yr wythfed ganrif a'i enwi ar 么l Offa, Brenin Mercia. Yr adeg honno roedd y clawdd yn dynodi'r ffin rhwng teyrnas Powys a Mercia ac o bosib yn amddiffyn Mercia rhag ymosodiadau gan y Cymry.

Mae'r llwybr a agorwyd yn 1971 yn cysylltu Clogwyni Sedbury, ger Cas-gwent a thre arfordirol Prestatyn yn y gogledd ddwyrain. Mae'n ymestyn ar draws wyth sir ac yn croesi'r ffin i Loegr 20 o weithiau.

Ffynhonnell y llun, Dan Llewellyn Hall

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dan Llewellyn Hall bod y llwybr yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru

Dywed Mr Hall, o Lanfyllin ym Mhowys, bod y llwybr yn cynrychioli "diwylliant y ffin" a'i fod yn "rhan bwysig o hunaniaeth Cymru" o ran gwarchod yr iaith a diwylliant.

"Mae yna ddiwylliant arbennig ar hyd y llwybr sy'n dilyn y clawdd ac mae tirwedd amrywiol i'w weld o un pen i'r llall," meddai.

"I lawer o bobl dyw'r llwybr ddim yn bwysig ac mae'n gallu bod yn anghyfleus i'w gynnal a'i gadw gan bod rhannau ohono ar dir preifat, ond os ydych yn colli ei arwyddoc芒d fydd hi ddim yn bosib i'w adfer."

Ffynhonnell y llun, Dan Llewellyn Hall

Disgrifiad o'r llun, Mae Dan Llewellyn Hall wedi paentio sawl llun ar gyfer yr arddangosfa gan gynnwys un o Abaty'r Groes yn Llangollen

Mae'r arddangosfa Cerdded gydag Offa yn cynnwys gwaith celf, barddoniaeth a cherddoriaeth - y cyfan yn dathlu'r llwybr.

Fe agorodd yr arddangosfa yng Nghanolfan Clawdd Offa, yn Nhrefyclo ddydd Sadwrn ac fe fydd yn para tan fis Hydref.

Dywed Mr Hall bod yr arddangosfa'n gyfle i roi sylw i lwybr na sydd wedi cael digon o sylw a bod "cronfa wedi ei chreu wedi iddo fe a Chymdeithas Clawdd Offa sylweddoli bod y clawdd angen sylw".

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llwybr yn cyfrannu'n helaeth i'r economi wledig, medd Rob Dingle

Dywed Rob Dingle, swydd llwybrau cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa bod y llwybr yn "mynd 芒 chi drwy ystod ddramatig o dirluniau" ac yn cyfrannu'n helaeth i economi nifer o ardaloedd.

"Mae ymwelwyr o bob rhan o'r byd yn dod i'w droedio a phan maen nhw yma mae'n nhw'n aros yn lleol, yn ymweld 芒 thafarndai ac yn gwario arian yn y siopau," meddai. "Mae'n hwb anferth i'r economi wledig."

Ychwanegodd bod cael pobl i gerdded y llwybr yn sgil y pandemig, ac i fwynhau'r ardal yn hynod bwysig.