Galw ar Gymru i ddilyn rheolau teithio Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr gwyliau a theithiau'n galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r un rheolau 芒'r rhai i deithwyr o Loegr.
O 19 Gorffennaf ni fydd yn rhaid i drigolion Lloegr sydd wedi cael dau frechiad coronafeirws hunan-ynysu ar 么l dychwelyd i'r DU o wledydd rhestr ambr.
Ond mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn dweud ei bod yn pryderu y gall amrywiolion Covid newydd ddod i'r DU o dramor.
Dywedodd mai'r cyngor o hyd yng Nghymru yw i osgoi teithiau dramor oni bai eu bod yn hanfodol.
"Byddwn yn edrych ar y sefyllfa yna yn y dyddiau nesaf i benderfynu beth yw ein hymateb," meddai, gan gyfeirio at y cynlluniau sydd ar y gweill yn Lloegr.
"Mae gyda ni bryderon difrifol ynghylch y sefyllfa ble mae pobl yn cael y neges bod, os y'ch chi wedi cael dau frechiad, mae'n golygu nad y'ch chi'n agored i niwed ac yn sicr, nid dyna'r neges ry'n ni eisiau ei rhoi i bobl Cymru."
Mae'r trefnydd gwyliau Sue Glen wedi cael nifer fawr o ymholiadau gan bobl yng Nghymru sy'n gobeithio teithio yn yr hydref a'r gaeaf, ond mae cwsmeriaid yn Lloegr am fynd ar wyliau cyn diwedd yr haf.
Dywedodd bod llawer o bobl yng Nghymru'n "croesi'u bysedd" y bydd Llywodraeth Cymru'n mabwysiadu'r un rheolau ag yn Lloegr.
"Mae angen yr un canllawiau - mae yna ddigon o gymhlethdod," meddai Ms Glen, sydd 芒 busnes trefnu gwyliau yn Llanfair-ym-Muallt, ym Mhowys. "Nonsens yw peidio gorfod dilyn yr un rheolau.
"Bydd llawer o deithwyr o Gymru'n defnyddio meysydd awyr yn Lloegr. Trywydd unedig sy' fwyaf ymarferol, wrth symud ymlaen."
'Angen hyder'
Dydy cwmni Edwards Coaches, o Lantrisant, yn Rhondda Cynon Taf, heb gludo teithwyr i Ewrop ers Nadolig 2019, er bod gwyliau dramor fel arfer yn werth 拢2.5m, sef 30% o werthiannau'r cwmni.
Yn 么l rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Jason Edwards fe ddylai Llywodraeth Cymru "gael yr hyder a gwneud yr un peth" 芒 Llywodraeth San Steffan, gan newid y cyngor i deithwyr sy'n dychwelyd o wledydd rhestr ambr.
"Ry'n ni angen neges gyson rhwng llywodraethau'r DU a Chymru," meddai.
Ar hyn o bryd mae gofyn i deithwyr hunan-ynysu am 10 diwrnod wrth ddychwelyd i Gymru o wledydd coch ac ambr, waeth sawl brechiad maen nhw wedi eu cael.
Bydd Gogledd Iwerddon yn dilyn esiampl Lloegr gan ddileu'r rheolau cwarant卯n o 26 Gorffennaf yn achos pobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn rhag coronafeirws wrth deithio i ac o wledydd rhestr ambr.
Mae disgwyl penderfyniad yn Yr Alban wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynghori pobl i beidio 芒 theithio dramor oni bai bod y daith yn hanfodol, ac yn adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws wythnos nesaf.
'Dryswch llwyr'
"Mae pobl wedi drysu," medd Suzanne Cumpston, o gwmni Sam Smith Travel yn Y Bont-faen, ym Mro Morgannwg.
"Holl bwynt y system goleuadau traffig oedd ei fod ar gyfer y Deyrnas Unedig ond dydyn ni ddim yn unedig iawn."
Dywedodd bod yna "groesi bysedd" y bydd Llywodraeth Cymru'n newid y rheolau wedi'u hadolygiad, a bod "angen i ni gyd fod yr un fath".
Yn 么l Anna Reed, cyfarwyddwr cwmni Ocky White Travel yn Hwlffordd, yn Sir Benfro, mae yna "ddryswch llwyr" ymhlith pobl yng Nghymru sy'n dymuno trefnu gwyliau, oherwydd nifer y profion Covid sy'n angenrheidiol cyn ac ar 么l teithio dramor a'r gwaith papur.
"Dydyn nhw ddim yn ymrwymo i ddim byw oherwydd yr holl reolau," meddai, er bod cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn sgil y sefyllfa yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: Russell George: "Er mwy i bawb wybod beth yw'r rheolau a glynu atyn nhw, dylid cael un polisi ar draws y DU o ran pwy sy'n gorfod bod mewn cwarant卯n ar sail ei statws brechu."
Yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mae yna bosibilrwydd mai teithiau tramor fyddai'r "ffordd y byddwn ni'n gweld yr amrywiolion newydd all, o bosib, wrthsefyll ein brechlynnau".
Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod angen i bobl ddeal bod y sefyllfa'n dal, mewn gwirionedd, yn ansicr iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2021