Pryderon am yfed gormod o alcohol yn ystod y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon ac elusennau yn rhybuddio bod argyfwng ar y gorwel wrth i fwy o bobl ddioddef effeithiau yfed gormod o alcohol.
Yn 么l gwaith ymchwil gan Alcohol Change UK, mae un o bob tri o bobl gafodd eu holi yn dweud iddyn nhw yfed mwy yn ystod cyfnodau clo llynedd na'r flwyddyn flaenorol.
Mae 'na alw am wella gwasanaethau i'r rheini sy'n dioddef a'u teuluoedd.
Mae ffigyrau diweddar y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn awgrymu bod marwolaethau o ganlyniad penodol i alcohol wedi cyrraedd y lefel uchaf.
'Codi bob dwy awr i gael diod'
Erbyn hyn, mae Kathy mewn poen a hynny'n deillio o or-ddefnydd alcohol yn ystod y pandemig.
Mae cerdded yn anodd iddi ar 么l cael niwed i nerfau yn ei choesau.
"Pan ddaeth y cyfnod clo, a doedden ni ddim yn cael mynd allan, nes i ambell i ddosbarth Zoom gyda ffrindiau gyda diod," meddai Kathy.
"Alla i ddim rhoi fy mys ar yr union pryd oedd y trobwynt ond fe aeth pethau allan o reolaeth ac erbyn y diwedd ro'n i'n codi bob dwy awr i gael diod.
"Roedd e wedi cyrraedd y pwynt ble do'n i methu gweithredu heb ddiod."
Dywed un meddyg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg bod cleifion sy'n derbyn triniaeth ar gyfer problemau alcohol difrifol - fel clefyd yr afu, neu sirosis - wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig.
"Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer fawr yn dod fewn am y tro cyntaf 'da sirosis," meddai Dr Dai Samuel.
"Ma hynna'n effeithio pobl ifanc, eu teuluoedd a phobl yn y gymuned. Pobl ifanc yn dod mewn ac nid jyst pobl yn eu 70au ac 80au.
"Ma' fe'n storm berffaith - cynnydd yn [yfed] alcohol wedi digwydd, a hefyd yn gordewdra a 'dyn ni 'di gweld 'da Covid y sgil-effaith ma' hwnna'n gael a ma'r un peth yn wir 'da sirosis."
Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru cafodd y gwasanaethau camddefnyddio sylweddau eu haddasu yn ystod y pandemig.
Roedd meddyginiaeth yn cael ei ddosbarthu i'r bobl a oedd yn gorfod hunan-ynysu - ac roedd ymgynghoriadau ar-lein a gwasanaethau cymorth seicolegol yn parhau i fod ar gael i'r rhai oedd eu hangen hefyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2021