大象传媒

'Angen i bawb allu cael gofal diwedd oes yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Enfys Wallace na fyddai wedi gallu ymdopi heb gymorth Hosbis y Ddinas

Mae angen gwneud mwy er mwyn sicrhau bod pawb sydd angen yn gallu cael mynediad at ofal diwedd oes yng Nghymru, yn 么l elusen Hospice UK.

Nod yr elusen ydy gwella safon bywyd i'r rheiny sy'n delio gyda chyflwr sy'n cyfyngu ar eu bywydau.

Maen nhw'n dweud mai'r amcangyfrif yw y bydd 170,000 o bobl yn marw yng Nghymru yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd bresennol, ond y byddai tua 80% o'r rheiny yn cael budd o ofal lliniarol neu ddiwedd oes.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi dros 拢8.4m y flwyddyn, ac wedi rhoi 拢12.3m o arian argyfwng i hosbisau a gwasanaethau lliniarol yng Nghymru.

'Bydden i ddim wedi gallu 'neud e hebddo fe'

Fe wnaeth Enfys Wallace golli ei g诺r Colin i ganser y coluddyn dair blynedd yn 么l, a bu'n cael cefnogaeth gan Hosbis y Ddinas yng Nghaerdydd.

"Roedd Colin ishe aros yn t欧. Doedd e ddim am fynd i'r ysbyty ac fe wnes i addo y bydden i yn edrych ar ei 么l e," meddai.

"Daeth nyrs o'r hosbis ac roedd fel cwmwl yn codi yn ein bywydau. Roedd hi yn dod bron bob dydd ac yn trefnu popeth i ni.

"Roedd Colin a fi yn siarad yn blaen, ac o' ni'n deall ein gilydd i'r dim. Roedd e'n gwybod bod amser yn brin.

"Gaethon ni lot fawr o help gyda Hosbis y Ddinas - bydden i ddim 'di gallu 'neud e hebddyn nhw.

"Roedd Colin a fi yn trafod popeth, ond roedd ishe help arnom ni, yn enwedig yn yr wythnose diwetha'. "

Mwy yn fodlon trafod yn sgil Covid

Yn 么l arolwg barn diweddar gan yr elusen mae'r pandemig wedi gwneud mwy o bobl yn barod i drafod gofal diwedd oes gyda'u teulu neu ffrindiau.

Mae'r ymchwil yn awgrymu y byddai'n well gan dros hanner y boblogaeth yng Nghymru i farw adref, ond 38% oedd yn credu y byddai modd iddyn nhw dderbyn gofal diwedd oes gartref.

Mae Hospice UK yn dweud y dylai pawb yng Nghymru sydd angen gofal o'r fath gael mynediad ato, ond maen nhw'n galw hefyd ar bobl i gael mwy o sgyrsiau gyda'u teuluoedd am yr opsiynau gwahanol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Dr James Davies ei bod yn bwysig fod teuluoedd yn trafod gofal diwedd oes

Yn 么l Dr James Davies, ymgynghorydd mewn gofal lliniarol yn Hosbis y Ddinas, mae heriau wrth ddechrau'r sgwrs yngl欧n 芒聽gofal diwedd oes.

"Ry'n ni yn delio ag e bob dydd gyda phobl yn ein gofal ni. Mae cleifion a theuluoedd weithie聽yn gofidio am ddechre siarad am drefniade diwedd oes," meddai.

"Ond y peth pwysica' i fi yw, os oes gyda chi ddymuniad ar gyfer ble chi ishe bod ar ddiwedd bywyd, mae'n bwysig i siarad am hynny.

"Mae'n gallu bod yn overwhelming i ddechre siarad am hyn, ond wrth 'neud hynny chi'n fwy tebygol o fod lle chi ishe ar ddiwedd bywyd, ac mae'n llai stressful i deuluoedd hefyd pan ddaw yr amser.

"Mae llawer o bobl sydd ddim yn meddwl am fod adre fel y dewis gorau ar ddiwedd oes, ac yn ogystal dyw pobl ddim wastad yn gwybod fod input ganddyn nhw.

"Mae'n bwysig iawn i ddweud bod llawer o opsiynau posib, a dylai'r claf fod yn y canol ac wrth galon y penderfyniadau yna."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Catrin Edwards mae angen "arweiniad cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth" am ofal o'r fath

Dywedodd rheolwr polisi Cymru Hospice UK, Catrin Edwards eu bod eisiau gweld "cynnydd yn y capasiti fel bod modd edrych ar 么l mwy o bobl".

"Ond hefyd, law yn llaw 芒 hyn, ein bod yn cael sgyrsiau gyda phobl a gwrando ar be' sy'n bwysig iddyn nhw ac annog nhw i drafod ymhellach ac i 'neud cynlluniau a rhoi'r cymorth iddyn nhw i gael y cynlluniau hynny yn eu lle ar gyfer eu blaenoriaethau diwedd oes nhw," meddai.

"Mae angen arweiniad cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth, nid yn unig ymysg y gwasanaethau ond hefyd ymysg y cyhoedd.

"Ni dysgu gwersi o'r pandemig - cynyddu capasiti, gwrando ar bobl a rhoi'r arfau iddyn nhw i fynnu eu dewisiadau nhw eu hunain."

'Cefnogaeth anferthol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod hosbisau yn "darparu gwasanaethau hynod bwysig ac rydyn ni'n cydnabod y gefnogaeth anferthol maen nhw'n ei roi i gleifion, teuluoedd a gofalwyr".

"Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi dros 拢8.4m y flwyddyn i gefnogi gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol ar draws Cymru.

"Rydyn ni hefyd wedi clustnodi 拢12.3m o arian argyfwng i hosbisau trwy'r pandemig er mwyn amddiffyn gwasanaethau sylfaenol a chryfhau cefnogaeth i'r rheiny mewn galar.

"Byddwn hefyd yn sefydlu rhaglen genedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes er mwyn cefnogi'r gwelliannau i'r gwasanaethau sy'n cael eu cyflawni."

Pynciau cysylltiedig