大象传媒

'Dim llacio'r holl gyfyngiadau yng Nghymru eto'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford fod "pob rhan o'r DU yn symud i'r un cyfeiriad yn gyffredinol"

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud na fydd yr holl gyfyngiadau Covid-19 yn cael eu diddymu yma o fewn yr wythnos nesaf.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi eu hadolygiad diweddaraf o'r canllawiau ddydd Mercher.

Dywedodd Mark Drakeford nad oedd wedi'i "argyhoeddi mai dyma'r foment" ar gyfer llacio llawn, gyda nifer yr achosion ar gynnydd yng Nghymru.

Er hynny, dywedodd bod "pob rhan o'r DU yn symud i'r un cyfeiriad yn gyffredinol" wedi iddo fod mewn cyfarfod rhwng pedair llywodraeth y DU ddydd Llun.

"Efallai ein bod ni'n ei wneud ar gyflymder gwahanol neu mewn ffyrdd gwahanol, ond rydyn ni oll yn teithio i'r un cyfeiriad yn gyffredinol," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyhoeddi unhryw newidiadau i'r cyfyngiadau brynhawn Mercher

Ond dywedodd Mr Drakeford nad oedd Boris Johnson wedi ei gwneud yn ddigon eglur yr wythnos hon bod unrhyw gyhoeddiadau am ddiddymu mwyafrif y cyfyngiadau ar 19 Gorffennaf yn berthnasol i Loegr yn unig.

"Roedd hi'n siomedig unwaith eto i weld bod y Prif Weinidog yn gweld hynny'n rhywbeth mor anodd i'w wneud - byddai wedi helpu gydag eglurder," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn cytuno gydag arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, na ddylid gwneud pasbort brechu yn orfodol.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd y cabinet yn "cwrdd eto bore 'fory" er mwyn gwneud penderfyniadau terfynol ar yr adolygiad diweddaraf.

Mae disgwyl iddo gyhoeddi unrhyw newidiadau yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Galw am amserlen

Ond mae Andrew RT Davies wedi galw eto ar y Prif Weinidog i osod amserlen fanwl yngl欧n 芒 phryd y bydd y cyfyngiadau yn cael eu diddymu yng Nghymru.

"Mae gan Yr Alban gynllun, mae gan Loegr gynllun, ac er mwyn achub swyddi ac adfer yr economi, mae hi nawr yn amser i weinidogion Llafur gyhoeddi cynllun manwl ar gyfer adfer rhyddid yng Nghymru," meddai.

"Mae angen i ni ddysgu byw gyda'r feirws, a gyda'r haf yn mynd rhagddo a'r tymor ysgol yn dod i ben, bydd nifer o deuluoedd, gweithwyr a busnesau yn gofyn 'os nad nawr, pryd?'

"Diolch i waith gr锚t y GIG a gwirfoddolwyr mae'r rhaglen frechu wedi bod yn mynd yn wych, ac fe ddylai hyn ein galluogi i adfer mwy o ryddid yng Nghymru a dechrau ein hadferiad."