大象传媒

Jade Jones: 'Unrhyw beth heblaw aur yn fethiant'

  • Cyhoeddwyd
jadeFfynhonnell y llun, Alex Livesey

"Bydd unrhyw beth heblaw aur yn fethiant yn fy marn i." Dyna eiriau Jade Jones, y pencampwr takewondo o ogledd Cymru wrth iddi drafod Gemau Olympaidd Tokyo sy'n dechrau ar 23 Gorffennaf.

Mae'r rhaglen arbennig, Jade Jones: Fighting for Gold, yn cael ei darlledu ar 大象传媒 One Wales a 大象传媒 iPlayer ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf am 20:30.

Mae'n edrych ar berthynas Jade gyda'i theulu, sut y trodd hi at taekwondo a sut bu'n gymorth i'w chadw hi ar y trywydd iawn wrth dyfu fyny.

Yng Ngemau Olympaidd Tokyo bydd gan Jade Jones y cyfle i fod y ddynes gyntaf erioed o Brydain i ennill medal aur mewn tair Gemau Olympaidd yn olynol.

"Byddai'n wych creu hanes ac ennill y drydedd medal aur 'na."

Ffynhonnell y llun, Hannah Peters
Disgrifiad o鈥檙 llun,

19 oed oedd Jade pan enillodd y fedal aur yn Llundain yn 2012

Mae Jade yn dweud mai'r gemau Olympaidd sydd ar ei meddwl hi y peth cynta' yn y bore pan mae hi'n codi o'i gwely.

"Ennill yn y gemau Olympaidd ydy'r teimlad gorau yn y byd... dwi jest yn farus ac eisiau'r teimlad yna eto!

"Mae wedi bod yn amser hir, ac yn anodd i ymarfer efo'r un dwyster am flwyddyn ychwanegol, ond dwi'n edrych 'mlaen gymaint at y gemau."

Cystadleuol

Mae Gary Hall, Cyfarwyddwr Perfformiad GB Taekwondo yn credu bod grym penderfyniad Jade yn arbennig: "Mae hi'n anhygoel o gystadleuol, yn ddidrugaredd, a 'di hi ddim yn rhoi dim byd i fyny'n hawdd. Mae hi wedi bod y gorau yn y byd am chwe mlynedd, sy'n eitha' syfrdanol.

"Mae hi'n dod fewn i'r gym bob bore gyda'r angerdd i wella ei hun o hyd - dim pawb mewn chwaraeon sydd efo hynny. Mae hi'n hollol benderfynol i fod yn well heddiw nag oedd hi ddoe."

"Dwi ddim yn si诺r pam dwi mor gystadleuol," meddai Jade. "Boed o'n Monopoly, cardiau neu p锚l-droed yn y gym, dwi'n mynd yn flin ac yn rhwystredig os dwi ddim yn ennill. Dwi'n cofio taflu'r bwrdd Monopoly i fyny yn awyr rhywdro pan o'n i'n colli.

"Os fyswn i ddim yn dda yn gwneud rhywbeth, byswn i'n osgoi ei wneud, fel adeg y dosbarth addysg gorfforol yn gwneud dawns byswn i'n eistedd lawr a ddim yn cymryd rhan."

Ffynhonnell y llun, Laurence Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jade yn rownd derfynol Gemau Olympaidd Rio 2016 yn erbyn Eva Calvo Gomez o Sbaen

Pwysigrwydd teulu

Cafodd Jade ei magu yn Y Fflint ac mae'r lle dal yn agos iawn at ei chalon hi: "Mae'n gymuned wych yno, ac mae pawb mor gefnogol. Bob tro dwi'n gyrru adref dwi'n gweld y blwch postio sydd wedi ei beintio'n aur fel teyrnged i fi - mae hynny'n fy ngwneud i mor falch."

Mae tad Jade, Gary Jones, yn gweithio fel dyn sgrap a chasglwr cocos (cockles) yn ardal Y Fflint, ac mae hi'n ei ddisgrifio fel "gweithiwr caled a bach o Jack the Lad a fyddai wastad yn ffeindio ffordd o ddod ag arian adref i'w deulu."

Mae Jade wedi bod wrth ochr ei thad yn gweithio am flynyddoedd, yn casglu cocos ac yn casglu sgrap, ac mae'n dweud bod cymeriad y ddau yn hynod debyg, gan fod Gary'n dueddol o ymladd rhywfaint pan oedd yn iau.

"Pan oedd Jade yn iau mi ro'dd o fel bod gen i fab, roedd hi fel hogyn bach. 'Da ni fel yr un person i fod onest - 'da ni'n dau yn gymeriadau tanllyd," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jade gyda Gary, ei thad, yn gweithio yn casglu cocos

Taid Jade ddechreuodd hi ar y trywydd taekwondo er mwyn dysgu pwysigrwydd disgyblaeth iddi. Roedd hi wedi dechrau cambihafio ar 么l i'w rhieni wahanu pan oedd hi'n naw oed.

"Fe wnes i ddechrau mynd lawr y llwybr anghywir a threulio amser efo bobl dylwn i ddim wedi," meddai Jade.

Mae mam Jade yn cofio problemau yn yr ysgol: "Ges i alwad ff么n gan y prifathro yn dweud bod Jade wedi ei dal yn smocio," meddai Jayne Ferguson.

"O'n i'n crio," meddai Jayne. "Pan ofynnais iddi pam 'nath hi wneud o 'nath hi ddweud 'pan dwi'n dda dwi fel fy mam, a pan dwi'n ddrwg dwi fel fy nhad', ond o'n i'n dweud wrthi i anghofio hynny a bod yn hi ei hun".

"Fe wnaethon ni drio pob dim," cofia ei thaid, am y cyfnod o geisio dod o hyd i gamp roedd gan Jade ddiddordeb ynddo, "nofio, p锚l-droed, popeth!"

Wrth gwrs, taekwondo enillodd y dydd, a dechreuodd Jade ennill medalau.

Gweithio tuag at Tokyo 2021

Yn ystod cyfnod y pandemig fe drodd Jade ei garej yn gym taekwondo, ac roedd hi'n ymarfer yno gyda ei chariad, Jordan Gayle, sydd hefyd yn cystadlu yn y gamp.

"Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn anodd iawn yn feddyliol, ac o'n i'n lwcus iawn i gael Bianca, sy'n byw efo fi a Jordan, fy nghariad i gadw'r ymarfer a hyfforddi i fynd. Roedd hi'n anodd iawn gan fod 'na gymaint o ansicrwydd 'di bod os fydda'r gemau'n cael eu cynnal o gwbl. Ond mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, a'r cyfan alla' i 'neud ydy dal i ymarfer a cheisio cadw'n bositif."

Ffynhonnell y llun, Laurence Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jade yn dathlu ennill Pencampwriaeth y Byd yn y categori 57 kg yn 2019

Mae Gary Hall o GB Taekwondo'n ymwybodol o pa mor rwystredig mae'r cyfnod wedi bod: "Pan ti wedi gweithio tua at rywbeth am bedair blynedd fel mae Jade wedi ei wneud a dydi o ddim yn digwydd, mae o'n hynod o siomedig.

"Yr un peth positif yw mai ei ohirio gafodd y gemau, nid canslo, felly mae 'na oleuni wedi bod ar ddiwedd y twnnel."

Yr agwedd feddyliol

Mae Jade yn gweld pwysigrwydd cael meddwl iach mewn chwaraeon: "Mae fy meddylfryd yn gallu bod y gorau posib, a dwi'n gallu bod yn ofnadwy o gryf yn feddyliol - dyna sut enillais yr aur yn 2012 a 2016. Pan dwi'n colli dydi o ddim oherwydd sgil neu ffitrwydd, mae wastad wedi bod oherwydd sut mae'n mhen i ar y pryd.

"Does 'na 'rioed 'di bod person sydd wedi ennill medal aur taekwondo dair gwaith yn olynol, a does 'na 'run dynes o Brydain sydd 'di ennill medal aur dair gwaith mewn gemau dilynol - dwi mor gyffrous wrth fynd amdano."

Ac mae'n amlwg fod ei theulu a'i chymuned yn gyffrous drosti hefyd, ac yn ei chefnogi 100%.

Dywedodd Gary, tad Jade: "Mae Jade yn gwybod faint o feddwl 'sgen i ohoni, ac faint dwi'n ei charu. Mae wedi fy ngwneud i mor falch, ac mae'r dref gyfan yn falch ohoni hefyd - mae hi'n anhygoel."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jade gyda'i thad, ei brawd, a'i dwy nith

Bydd y cystadlaethau taekowndo yn cael eu cynnal yn Tokyo rhwng 25 a 28 Gorffennaf. Mae Jade eisoes yn un o'r athletwyr gorau mae Cymru erioed wedi ei gael yn y Gemau Olympaidd, ond drwy ennill aur bydd hi'n sicr o ymuno ag anfarwolion chwaraeon y genedl o'r holl gampau.

Hefyd o ddiddordeb: