大象传媒

YesCymru yn galw am 'barchu pawb' wedi ffraeo chwyrn

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rees
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sarah Rees ydy'r cadeirydd dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Si么n Jobbins

Mae cadeirydd dros dro YesCymru wedi annog aelodau i "barchu barn pawb," yn dilyn dadleuon chwyrn rhwng rhai cefnogwyr ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae aelodaeth y mudiad annibyniaeth wedi cynyddu oddeutu 15,000 dros y 18 mis diwethaf.

Dywedodd Sarah Rees hefyd bod angen newidiadau strwythurol ar y corff.

A galwodd ar i bobl i beidio 芒 gosod sticeri YesCymru ar arwyddion stryd a physt lampau.

'Aelodau i arwain y ffordd'

Penodwyd Ms Rees yn gadeirydd dros dro ar 么l i Si么n Jobbins roi'r gorau i'w swydd yr wythnos ddiwethaf am resymau iechyd.

Roedd Mr Jobbins, un o sylfaenwyr YesCymru, wedi bod yn y swydd ers 2018 ac wedi goruchwylio twf aruthrol y mudiad yn ystod y pandemig.

Mewn neges i aelodau'n cyhoeddi ei ymddiswyddiad, dywedodd Mr Jobbins fod yr angen am newidiadau strwythurol ar y sefydliad wedi "dod yn amlwg".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Pwysau'r r么l" oedd y rheswm i Si么n Jobbins adael swydd y cadeirydd

Dywedodd Ms Rees wrth raglen Politics Wales y 大象传媒: "Rydyn ni'n gwybod bod angen i ni wneud newidiadau.

"Rydyn ni'n gwybod ein bod ni'n dibynnu gormod ar wirfoddolwyr, a dyna lle mae'n rhaid i ni newid.

"Felly'r hyn rydyn ni'n ei wneud yw siarad 芒'n holl aelodaeth iddyn nhw arwain y ffordd o ran sut rydyn ni'n symud yr aelodaeth ymlaen, a sut rydyn ni'n gwneud y newidiadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud i adlewyrchu maint y sefydliad erbyn hyn."

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae rhai aelodau wedi cecru ar-lein dros arweinyddiaeth a chyfeiriad YesCymru.

Fis diwethaf yn dweud ei fod yn "ymwybodol bod aelodau pwyllgor canolog YesCymru a staff YesCymru wedi'u targedu a'u haflonyddu" ac na fyddai'r corff "yn goddef aflonyddu na chamdriniaeth o aelodau pwyllgor a staff".

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig cofio taw swigen fach yw'r cyfryngau cymdeithasol fel Twitter," meddai Ms Rees, gan ychwanegu bod mwyafrif helaeth y 18,000 o aelodau sydd gan YesCymru yn "gyffrous, hapus, a hyderus".

"Un o'r pethau sy'n rhan o fod yn garfan fawr o bobl sy'n cynrychioli sbectrwm eang o bobl ar draws gwleidyddiaeth ydy sicrhau eich bod chi'n barchus ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i mi yn y swydd rydw i ynddi nawr fel y cadeirydd dros dro i atgoffa pawb y mae'n rhaid i ni fod yn barchus tuag at farn pawb, a pharchu pawb."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cadeirydd dros dro wedi annog pobl i "roi eich sticeri mewn lleoedd priodol"

Yn gynharach y mis hwn dywedodd gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies, ei fod wedi cael "llond bol" ar weld sticeri ymgyrch annibyniaeth YesCymru yn cael eu gosod yn "anghyfreithlon".

Wrth ymateb i'r sylw, dywedodd Ms Rees: "Nid ydym wedi cymeradwyo'r sticeri hynny.

"Mae fy sticer er enghraifft ar fy ngliniadur, mae gen i ffrindiau sy'n rhoi sticeri ar eu ceir.

"Mae yna ffyrdd anhygoel o ddangos eich cefnogaeth i YesCymru trwy roi eich sticeri mewn lleoedd priodol."

Bydd cyfarfod o Bwyllgor Cenedlaethol YesCymru yn cael ei gynnal ddiwedd y mis hwn.

Gallwch wylio Politics Wales ar 大象传媒 One Wales am 10:00 ddydd Sul 18 Gorffennaf, neu ar 大象传媒 iPlayer.

Pynciau cysylltiedig