大象传媒

Safle Treftadaeth Byd UNESCO i ardal llechi Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Statws Treftadaeth y Byd Unesco i ardal y llechi

Mae ardal llechi Gwynedd wedi llwyddo i fod ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO.

Dyma fydd y pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru gan ymuno 芒 rhestr o oddeutu 900 o lefydd ledled y byd - yn eu plith C么r y Cewri yng Ngwlad yr Haf, Wal Fawr China a'r Taj Mahal yn India.

Yr ardaloedd penodol yn ardal llechi Gwynedd yw Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant ac Abergynolwyn.

Mae Cyngor Gwynedd yn gobeithio y bydd ennill y statws yn arwain at adfywio'r ardal a chreu swyddi newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y bwriad yw rhoi hyder a balchder i bobl yn eu treftadaeth

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod cyhoeddiad heddiw yn "dangos cyfraniad arwyddocaol y rhan hon o Ogledd Cymru i etifeddiaeth ddiwylliannol a diwydiannol y byd".

"Mae llechi Cymru i'w canfod ar draws y byd.

"Bydd cydnabyddiaeth UNESCO yn gymorth i ddiogelu gwaddol a hanes cymunedau ardal y llechi am genedlaethau i ddod," meddai.

"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod ynghlwm 芒'r cais."

'Dwi'n ddyn hapus'

Wrth ymateb dywedodd yr archeolegydd Dr David Gwyn sydd wedi bod yn gweithio ar y cais am 12 mlynedd ac a oedd wrth wraidd y syniad o'i gyflwyno ei fod yn ddyn hynod o hapus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y rhai oedd ynghlwm 芒'r cais yn dathlu yn Amgueddfa Lechi Llanberis

"Dwi newydd ffonio Mam i ddweud ein bod wedi llwyddo. Ry'n yn gwybod ers degawdau bod tirluniau llechi Gogledd Cymru yn arbennig ond roedd cael pwyllgor rhyngwladol i gydnabod hynny yn foment arbennig.

"Mae rhain yn dirluniau eithriadol sy'n golygu rhywbeth i'r ddynoliaeth gyfan. Mae yna rywbeth arbennig, bron yn hudolus, yn ein hiaith a'n diwylliant - y cyfan wedi cyfrannu at lwyddiant y cais.

"Mae'r llwyddiant yn deyrnged i waith caled sefydliadau a busnesau preifat sydd wedi llunio'r cais," ychwanegodd Dr Gwyn.

Y tri safle sydd eisoes wedi ennill y statws yng Nghymru yw Traphont Dd诺r Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll Edward y Cyntaf.

Cafodd dyfrbont enwog Thomas Telford yn Froncysyllte, ei hychwanegu at restr UNESCO yn 2009 a dywed Linda Slater, sy'n un o d卯m rheoli'r draphont a'i hatyniadau bod derbyn statws UNESCO wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

Nid yw鈥檙 post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan UNESCO UK

Caniat谩u cynnwys Twitter?

Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.

Nid yw'r 大象传媒 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan UNESCO UK

Pryderon am dwristiaid

Yn gynharach dywedodd datganiad gan Cylch yr Iaith: "Beth bynnag fo gobaith y cyngor sir, rhaid cydnabod yn onest y byddai ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn cynyddu twristiaeth i'r ardaloedd dan sylw.

"Ac o ran y bwriad i 'sbarduno datblygiad economaidd', mae'n ymddangos mai datblygiadau twristaidd sydd ar gynnydd drwy'r sir.

"Mae profiad ardaloedd eraill o fewn y sir yn dangos sut y mae cymeriad ac iaith cymuned yn cael eu newid o ganlyniad i ddatblygiadau twristaidd anghydnaws."

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi pwysleisio bod y cais am y statws yn ymwneud 芒 dathlu hanes cyfoethog yr ardal, gan ychwanegu y bydd yr iaith Gymraeg yn parhau yn greiddiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae chwareli fel yr un yn Ninorwig ger Llanberis yn rhan drawiadol o dirlun Eryri

Dywedodd Sian Gwenllian AS Plaid Cymru dros Arfon, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg: "Gwn y bydd pobl leol, llawer ohonyn nhw fel finnau'n ddisgynyddion i deuluoedd a oedd yn dibynnu ar ddiwydiant y chwareli, yn teimlo balchder am y cyhoeddiad hwn.

"Mae'n briodol bod yr ardal yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, gan fod hanes yr ardal o bwysigrwydd rhyngwladol. Rydyn ni'n gwybod yn iawn fod chwareli llechi Arfon ar un adeg yn ganolbwynt diwydiannol rhyngwladol.

"Roedd llechi Gwynedd yn cael eu cludo ledled y byd. Ychydig iawn o'r cyfoeth hwnnw a welwyd gan gymunedau lleol Gwynedd, a byddaf yn meddwl am y cenedlaethau hynny heddiw."

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David TC Davies AS, bod derbyn y statws yn "gryn deyrnged i'r rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant llechi".

"Hoffwn roi cymeradwyaeth i bawb sydd wedi sicrhau bod etifeddiaeth bwysig y diwydiant llechi yng Nghymru ar hyd mil o flynyddoedd yn cael cydnabyddiaeth rhyngwladol."

Pynciau cysylltiedig