大象传媒

Chwarter disgyblion ddim yn yr ysgol wythnos olaf y tymor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysgol Willows CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O fis Medi ymlaen ni fydd yn rhaid i grwpiau cyswllt cyfan ynysu os oes achos positif

Roedd bron i chwarter o ddisgyblion Cymru yn absennol o'r ysgol yn ystod wythnos lawn olaf y tymor, medd ffigyrau swyddogol.

Mae'r data rhwng 12 a 16 Gorffennaf yn awgrymu nad oedd 8.6% yn yr ysgol am resymau'n gysylltiedig 芒 Covid-19.

Roedd y ganran yn 13% ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd tra bod y ganran ymhlith plant cynradd yn 6%.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud mai'r ysgol oedd y lle gorau i blant.

O ystyried y darlun cyfan roedd ffigyrau presenoldeb wythnos olaf y tymor yn amrywio ar draws Cymru - 68.9% yn Sir Ddinbych, 69.3% yn Nhorfaen ac 82.3% yn Sir Fynwy.

Y cyfartaledd presenoldeb ar gyfer Cymru gyfan oedd 77% - gyda 33,800 o ddisgyblion yn absennol am resymau yn ymwneud 芒 Covid-19.

Pedair wythnos ynghynt roedd y gyfran yn 88.4% ac roedd 2.1% yn absennol oherwydd rhesymau cysylltiedig 芒'r pandemig.

Mae'r ffigyrau yn awgrymu bod 90,870 yn absennol yr wythnos honno.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y rheolau newydd yn weithredol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion

Mae nifer o resymau yn gyfrifol am absenoldeb o'r ysgol ond mae yna bryderon bod canlyniadau positif o'r haint ymhlith staff a disgyblion wedi amharu ar addysg disgyblion.

Yn amlach na pheidio mae achosion positif mewn ysgol yn golygu bod rhaid i grwpiau cyswllt hefyd hunan-ynysu.

Dywed Llywodraeth Cymru na fydd yn rhaid i ysgolion a cholegau sicrhau grwpiau cyswllt o fis Medi ymlaen.

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi dweud hefyd bod yna achos dros beidio gofyn i bobl o dan 18 hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gysylltiad agos 芒 rhywun sydd wedi cael prawf Covid positif.

Ddim am hunan-ynysu dros yr haf

Mae'r data yn awgrymu bod mwy o ddisgyblion yn absennol heb ganiat芒d yn ystod wythnos olaf y tymor.

Fe wnaeth rhai rhieni beidio anfon eu plant i'r ysgol gan y byddan nhw'n ofni y byddai'n rhaid iddyn nhw hunan-ynysu yn ystod gwyliau'r haf.

Ers i'r ysgolion agor yn llawn wedi'r Pasg, mae dros 213,100 o blant neu 45% o ddisgyblion Cymru wedi colli dros wythnos o ysgol.

Mae bron i 56,000 (12%) wedi methu 芒 bod yn yr ysgol am dros wythnos oherwydd rheswm cysylltiedig 芒 Covid-19.

Dyw'r rhan fwyaf o ddisgyblion blynyddoedd 11 a 13 ddim wedi bod yn yr ysgol ers diwedd mis Mai wedi iddynt orffen eu hasesiadau ar gyfer arholiadau TGAU a Safon Uwch.

Does dim data ar gyfer ysgolion M么n wedi i dechnoleg ysgolion uwchradd y sir gael ymosodiad seibr ddiwedd Mehefin.

'Annerbyniol'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones bod "cael 90,000 o ddisgyblion o'r ysgol, a 33,800 ohonyn nhw am resymau'n ymwneud 芒 Covid yn annerbyniol, o ystyried faint o amser maen nhw eisoes wedi colli yn y dosbarth ers dechrau'r pandemig".

Ychwanegodd ei fod "yn gwbl hanfodol" bod Llywodraeth Cymru'n gwireddu'r cynlluniau i gael gwared ar swigod cyswllt wrth i ysgolion ailagor ym mis Medi.

Pynciau cysylltiedig