大象传媒

Ble mae Safleoedd Treftadaeth UNESCO Cymru?

  • Cyhoeddwyd
dinorwigFfynhonnell y llun, Geography Photos

Daeth y newyddion ar 26 Gorffennaf bod ardaloedd llechi Gwynedd wedi llwyddo i gyrraedd rhestr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO.

Yr ardaloedd llechi yw'r pedwerydd Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru - mae tua 900 o safleoedd gyda'r statws ledled y byd.

Y pedwar Safle Treftadaeth Byd yng Nghymru yw:

  • Cestyll a muriau trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd (ennill statws UNESCO yn 1986)

  • Tirlun Diwydiannol Blaenafon (2000)

  • Traphont dd诺r Pontcysyllte (2009)

  • Diwydiant llechi gogledd orllewin Cymru (2021)

Mae'r ardoledd llechi'n ymuno 芒 rhestr arbennig sy'n cynnwys y Colosseum yn Rhufain, Wal Fawr China a Machu Picchu.

Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd

Mae dros 600 o gestyll yng Nghymru, ac mae cydnabyddiaeth arbennig yn cael ei roi i bedwar o gestyll Edward I, brenin Lloegr; Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech a'r trefi caerog yng Nghonwy a Chaernarfon. Cafodd y cestyll yma eu dylunio gan James o St George, pensaer milwrol Brenin Edward I.

Cafodd y cestyll yma statws UNESCO yn 1986.

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Castell Biwmares ei adeiladu rhwng 1295 ac 1298

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Castell Conwy ei gipio gan Owain Glynd诺r yn 1401

Ffynhonnell y llun, Loop Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Castell Caernarfon, ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Castell Harlech. Yn 么l y Mabinogi Castell Harlech oedd castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Ll欧r

Tirlun Diwydiannol Blaenafon

Gwaith Haearn Blaenafon, sydd bellach yn amgueddfa, oedd prif ganolfan cynhyrchu haearn de Cymru. Mae'r Amgueddfa Lofaol Cymru ("Pwll Mawr") yn fan twristiaeth ac addysg boblogaidd.

Fe'i rhoddwyd statws hwn gan UNESCO yn 2000 mewn cydnabyddaieth o'i le allweddol yn y Chwyldro Diwydiannol.

Ffynhonnell y llun, Education Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r safle ym Mlaenafon yn cynnwys 82 adeilad rhestredig

Traphont dd诺r Pontcysyllte

Thomas Telford a William Jessop adeiladodd y draphont yma yn 1805. Hon yw'r draphont dd诺r hiraf ac uchaf ym Mhrydain, ac fe enillodd statws Treftadaeth gan bwyllgor UNESCO ym Madrid yn 2009.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Pontcysyllte 1,007 troedfedd o un pen i'r llall

Diwydiant llechi gogledd orllewin Cymru

Yr ardaloedd penodol yn ardal llechi Gwynedd yw Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant ac Abergynolwyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Chwarel Dinorwig, a gaeodd yn 1969

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o tua 1890 o weithwyr chwarel yn Llanberis

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig