Rhybudd i nofwyr am garthion a llygredd mewn afonydd
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n bwriadu mynd i nofio yn rhai o afonydd Cymru yn cael eu rhybuddio i fod yn ymwybodol o fudreddi a llygredd cyn gwneud hynny.
Mae afonydd wedi dod yn llefydd fwyfwy poblogaidd i nofio, yn enwedig gyda phyllau nofio swyddogol wedi bod ynghau dros y cyfnod clo.
Ond yn 么l ffigyrau D诺r Cymru, yn 2020 cafodd carthion eu colli i afonydd yng Nghymru dros 100,000 o weithiau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gwario miliynau o bunnoedd ar sicrhau hylendid afonydd, a bod gan 46% o afonydd "statws da" o ran lefelau llygredd.
Fis Ebrill eleni fe wnaeth D诺r Cymru ddatgelu bod 100,000 enghraifft o lygru afonydd wedi digwydd ar draws y rhwydwaith yng Nghymru yn 2020.
Dros y blynyddoedd mae'r cwmni wedi wynebu dirwyon o gannoedd o filoedd o bunnau am ladd pysgod, gollwng cemegau a gollwng carthion i afonydd.
Yn 么l Angela Jones, sydd wedi nofio'n gyson yn Afon Gwy yn Sir Fynwy am 35 mlynedd, mae'r afon yn marw oherwydd carthion a llygredd fferm.
Dywedodd ei bod hi erioed wedi ei gweld yn y fath gyflwr, a bod ardaloedd o'r afon na fyddai hi yn mynd i'r d诺r mwyach.
"Mae'n amarch gan gwmn茂au d诺r, a ffermwyr sy'n ei drin fel carthffos agored," meddai Ms Jones, 55.
Mae hi'n galw am gosbau llymach i'r rheiny sy'n llygru afonydd.
'Dim am roi'r ffidil yn y to'
Yn 么l Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae dros hanner Afon Gwy wedi methu 芒 chyrraedd targedau o ran lefelau llygredd, ac mae rhai yn rhoi'r bai ar ffermydd dofednod.
Tra bod CNC yn cydnabod bod ffatr茂oedd dofednod yn cael rhyw effaith, mae'r corff yn dweud bod y rhesymau yn aml yn fwy cymhleth ac yn dod o wahanol ffynonellau.
"Pan chi'n gweld faint o fudreddi sy'n cael ei ddympio, mae'n ofnadwy, ond dydw i ddim am roi'r ffidil yn y to gyda'r afon yma," meddai Ms Jones.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi Cymru gyfan yn Barth Perygl Nitradau (NVZ) a chyflwyno rheolau llymach ar storio a gwasgaru slyri er mwyn ceisio mynd i'r afael 芒 llygredd afonydd.
Ond mae undeb ffermio NFU Cymru wedi cael yr hawl i apelio yn erbyn y rheolau newydd yn yr Uchel Lys.
Dywedodd corff Afonydd Cymru, sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau afonydd, bod angen gwella systemau gorlifo carthffosydd, ond y byddai gwneud hynny yn cymryd degawdau ac yn costio biliynau o bunnoedd.
Ychwanegodd bod problemau llygredd wedi gwaethygu wrth i ffermio da byw ddwysau.
Dywedodd y cadeirydd Chris Mills bod "y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu o'r ffermio yma yn ormod i'r tir ddelio gydag ef".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi 拢9.5m yn y flwyddyn ariannol bresennol er mwyn gwella safon d诺r yng Nghymru, a bod 46% o afonydd Cymru 芒 "statws da" o ran lefelau llygredd.
Ond ychwanegodd y bydd rhai cemegau oedd yn cael eu defnyddio yn y gorffennol yn "cael effaith ar amgylchedd y d诺r am ddegawdau i ddod".
Ychwanegodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod ganddynt amryw o brosiectau ar waith i wella iechyd afonydd, a'u bod wedi sicrhau euogfarnau yn erbyn tri chwmni d诺r yn y chwe blynedd ddiwethaf.
Dywedodd D诺r Cymru ei fod wedi buddsoddi dros 拢85m yn y degawd diwethaf yn tynnu ffosfforws o afonydd - gan gynnwys mewn 10 man yn Afon Gwy.
"Ry'n ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd 芒'r holl gyrff er mwyn chwarae ein rhan yn helpu gwella safon afonydd ymhellach," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd7 Awst 2019
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2019