大象传媒

'Mwy o gymorth i eisteddfodau bach yn y dyfodol'

  • Cyhoeddwyd
Aled Wyn Phillips
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Aled Wyn Phillips bod criteria pob eisteddfod leol yn wahanol i'w gilydd

Mae 'na awgrym y bydd mwy o gefnogaeth i eisteddfodau lleol yn y dyfodol i ddelio 芒 materion fel rheolau iechyd a diogelwch, sgiliau digidol a chasglu arian.

Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn lansio cyfres o sesiynau fydd yn cychwyn yn yr hydref lle bydd cyngor a chyfarwyddyd ar gael gan arbenigwyr yn y maes i bwyllgorau eisteddfodau lleol.

Dywedodd Aled Wyn Phillips, swyddog datblygu'r Gymdeithas: "Mae tua 120 o steddfodau lleol ar hyd a lled y flwyddyn, pob un wedi eu trefnu gan griw o bwyllgor lleol gwirfoddol. Mae criteria pob un yn wahanol i'w gilydd.

"O blith y rhain mae rhai wedi penderfynu gadel hi am flwyddyn arall oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, ond mae ambell un arall wedi gweld cyfle i ddod at eu gilydd yn rhithiol."

Dros y chwe mis diwetha' mae hyd at 12 o eisteddfodau wedi cynnal naill ai gwaith cartref neu wedi bod yn gweithio ar Facebook yn rhithiol.

Dim ond 'chydig wythnosau'n 么l roedd Eisteddfod Powys wedi denu 1,200 o gystadleuwyr.

Wrth edrych i'r dyfodol mae Mr Phillips yn rhagweld ei fod yn ddigon posib y bydd elfennau rhithiol yn parhau ar 么l y pandemig.

"Fydde ni'n meddwl - o ystyried be ni'n clywed gan steddfodau a chymdeithasau eraill - y bydd yna 'chydig bach o'r ddau yn y dyfodol," meddai.

"Yn bendant y prif fwriad yw dod 'n么l, fel bod pobl yn gallu cymdeithasu, joio mynd i bwyllgor a gweld y digwyddiad yna.

"Ond i bobl er'ill maen nhw'n gweld cyfle i ymestyn cynulleidfa yn fwy na beth yw maint neuadd neu gapel."

'Dysgu gan drefnwyr gwyliau eraill'

Her i bwyllgorau Eisteddfodau yn y pandemig yw cynnal egni a brwdfrydedd pwyllgorau a chystadleuwyr.

Yn 么l Mr Phillips: "Mae'n rhaid atgoffa pobl am yr opsiwn i ddod 'n么l ac ailafael pan bo' hi'n ddiogel i 'neud hynny a bo' nhw'n gyfforddus i 'neud hynny.

"Felly ry'n ni nawr yn lansio cyfres o weithgareddau o'r hydref 'mla'n yn annog pobl i ystyried ffactorau os ydyn nhw, er enghraifft, yn poeni neu ganddyn nhw ddiffyg hyder digidol, neu yn poeni am oblygiadau ariannol.

"Felly bydd cyfres o sesiynau i glywed profiadau pobl sy'n trefnu'n rhithiol fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl fel bo' ni'n cael ein hysbrydoli a dysgu gan brofiadau pobl er'ill a digwyddiade' mawr a pha elfennau allwn ni ddysgu, defnyddio a datblygu yn ein cymunedau lleol."

Ffynhonnell y llun, ffotoNant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 500 o bobl o fewn muriau Castell Caerdydd ar 15 Mai i fwynhau Tafwyl - un o'r digwyddiadau byw mawr cyntaf yng Nghymru ers y pandemig

Mae'n cyfadde' bod y dyfodol yn ansicr: "'S'neb yn si诺r beth yw y dyfodol ond allwn ni ddim aros yn yr unfan. Efalle bod cyfle fan hyn i ail ystyried ambell beth.

"Ni ishe cynnal safonau, mae steddfodau lleol yn ddigwyddiadau mawr ac ma' rhain yn meithrin a datblygu talent i lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol."

Mae'n bosib y bydd mwy o gefnogaeth yn y dyfodol i eisteddfodau, meddai.

"Ni wedi gweld o brofiad pobl sy'n mynd yn rhithiol. Os yw neuadd cymuned yn dal 100-200 ma' rhai steddfodau wedi profi bod 1,000-1,500 wedi gwylio nhw ar YouTube, Facebook ac yn y bla'n.

"Dwi ddim yn dweud mai dyna'r ateb i bopeth ond mae'n dangos bod cyfle i ymestyn y tu hwnt i ffiniau."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Seren Haf Macmillan - aelod o bwyllgor Eisteddfod y Rhondda, a gafodd ei sefydlu wedi dechrau'r pandemig

Un eisteddfod leol sydd wedi arbrofi yn rhithiol yw Eisteddfod y Rhondda, gafodd ei sefydlu yn 2020.

Yn 么l Seren Haf Macmillan, sydd yn aelod o'r pwyllgor, roedd yr ymateb yn "anhygoel".

"Ry'n ni wedi cynnal lot o gystadlaethau traddodiadol yn ogystal 芒 chystadlaethau sy'n addas ar gyfer y llwyfan digidol," meddai.

"Mae gan y steddfod wefan ei hun a hefyd mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig i ni.

"Fe gawson ni dros 80 o bobl wedi cystadlu o bob rhan o Gymru. Ma' hynna'n hollol wahanol i be' oedden ni yn ei ddisgwyl.

"Ry'n ni wedi dysgu pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol - dyna'r platfform i drio cyrraedd pobl sy' ddim yn lleol a phobl ifanc.

"Ond y nod yw cynnal Eisteddfod draddodiadol yn y dyfodol. Bydd Steddfod y Rhondda yn rithiol ar 8 Hydref eleni, ond gobeithio blwyddyn nesa' bydd cyfle i bawb ddod at ein gilydd... dyna yw'r nod. Mae'r cymdeithasu mor bwysig i ni gyd."

Pynciau cysylltiedig