Cynnig pleidleisio 'hyblyg' mewn siopau ac ysgolion
- Cyhoeddwyd
Fe allai pobl fedru pleidleisio mewn archfarchnad neu ysgol mewn rhannau o Gymru yn etholiadau'r cynghorau y flwyddyn nesaf.
Gallai cynigion am "bleidleisio hyblyg" weld pleidleisio'n digwydd dros nifer o ddyddiau neu benwythnos cyn yr etholiad mewn ymdrech i gynyddu'r nifer sy'n bwrw'u pleidlais.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn a fyddai cynghorau am gynnal cynllun peilot o'r syniadau.
Ond mae swyddogion pleidleisio wedi dweud nad oes llawer o amser i weithredu'r cynlluniau arfaethedig.
42% wedi bwrw pleidlais
Yn etholiadau diwethaf cynghorau Cymru yn 2017, 42% o'r rhai oedd yn gymwys wnaeth fwrw'u pleidlais.
2022 fydd y tro cyntaf pan fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiad awdurdodau lleol.
Mae swyddogion yn ystyried caniat谩u i bobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio o fewn ardal eu cyngor sir. Gallai hynny olygu fod pobl yn gallu pleidleisio mewn rhywle sy'n fwy hwylus iddyn nhw yn hytrach na'r orsaf agosaf at lle maen nhw'n byw.
Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried a oes modd defnyddio archfarchnadoedd a chanolfannau hamdden, neu ysgol neu goleg.
Gallai pleidleisio cynnar hefyd fod yn rhan o gynlluniau peilot.
Ar hyn o bryd mae gan staff gorsafoedd restr bapur o etholwyr ac maent yn croesi enwau o'r rhestr pan fyddan nhw'n pleidleisio, ond mae Llywodraeth Cymru'n credu y bydd agen atebion digidol ar gyfer rhai o'r syniadau.
Dywedodd Laura Lock, dirprwy brif weithredwr y Gymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol, fod gan y cyhoeddiad "nifer o syniadau da iawn ynddo".
"Y peth sy'n allweddol yw bod etholwyr ond yn pleidleisio unwaith, a'u bod nhw'n pleidleisio yn yr etholiad cywir," meddai.
"Ond mae'n her weinyddol enfawr, oherwydd er nad yw'n swnio'n syniad radical iawn ry'n ni angen gwneud newidiadau go fawr i alluogi hyn i ddigwydd."
Galwodd Ms Lock hefyd ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad "cyn gynted 芒 phosib" gyda'r etholiadau'n digwydd ar 5 Mai 2022.
"Ry'n ni am gynnwys yr holl bosibiliadau a ddaw o'r cynlluniau peilot, ond dyw naw mis ddim yn rhoi llawer o amser i ni sicrhau y gall hynny gael ei wireddu. Rwy'n credu y bydd yn her, ond nid yw'n amhosib."
Anghytuno ymysg y pleidiau
Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, bod y llywodraeth am ei gwneud mor hawdd 芒 phosib i bobl bleidleisio.
Dywedodd: "Dylai democratiaeth fod yn rhan o'n bywydau ni i gyd ac os bydd mwy yn rhan ohono fe fydd yn arwain at wneud polis茂au yn well gan aelodau etholedig sy'n adlewyrchu'n gywir barn a phrofiadau bob un ohonom."
Ond anghytuno mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyfansoddiad, Darren Millar.
"Unwaith eto mae blaenoriaethau Llafur yn anghywir," meddai.
"Mae gan bobl Cymry y cyfle i bleidleisio'n gynnar yn barod trwy ddefnyddio pleidlais bost... does dim angen newidiadau mawr i system sy'n gweithio'n dda i'n democratiaeth."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, Rhys ab Owen bod "unrhyw ymgais i gynyddu'r nifer sy'n bwrw pleidlais i'w groesawu'n fawr".
"Dwi'n si诺r y bydd mwy o bobl ifanc yn pleidleisio yn y dyfodol pe bydden nhw'n gallu gwneud hynny yn eu hysgol, ac mae pleidleisio dros sawl diwrnod, pleidleisio electronig a phleidleisio mewn llefydd fel archfarchnadoedd yn syniadau sy'n iawn rhoi sylw iddynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021
- Cyhoeddwyd5 Mai 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021