Lauren Price i ymladd am fedal aur yn y Gemau Olympaidd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y bocsiwr Lauren Price yn ymladd i ennill medal aur ar ddiwrnod olaf Gemau Olympaidd Tokyo 2020 ddydd Sul ar 么l wedi sicrhau lle yn rownd derfynol cystadleuaeth pwysau canol y merched.

Fe gurodd y Gymraes 27 oed o Gaerffili ei gwrthwynebydd o'r Iseldiroedd, Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol ddydd Gwener er nad oedd penderfyniad y beirniaid yn unfrydol.

Collodd Price bwynt am ddal ei gwrthwynebydd yn ormodol yn ail rownd yr ornest, ond fe darodd yn 么l yn gryf yn y rownd olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Bydd yn wynebu Li Qian o China yn y rownd derfynol.

Dywedodd ei bod ar ben ei digon wedi gornest "anodd".

Ychwanegodd: "Breuddwyd pawb yw cyrraedd y ffeinal ac rwyf am wneud popeth posib i ddod 芒'r fedal aur adref."