Lauren Price yn ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol
- Cyhoeddwyd
Mae Lauren Price wedi ennill medal aur yn y bocsio pwysau canol ar ddiwrnod olaf Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Trechodd y Gymraes, 27 oed, Li Qian o Tsieina yn y rownd derfynol ddydd Sul.
Enillodd 5-0 o bwyntiau wrth gystadlu yn Arena Kokugikan yn Tokyo.
Dyma'r fedal Olympaidd gyntaf i'r ferch o Gaerffili, a oedd eisoes wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2019 ac yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2018.
Price oedd y bocsiwr benywaidd cyntaf o Gymru i gyrraedd y Gemau Olympaidd.
Enillodd y rownd gyntaf yn erbyn cyn-bencampwr y byd Li, gyda'r pum dyfarnwr yn penderfynu'n unfrydol mai hi oedd yr enillydd - diolch i'w dwylo a thraed cyflym.
Fe barhaodd i ddominyddu'r ail rownd, yn rheoli'r cyflymder gyda'i gwrthwynebwr yn ei chael hi'n anodd pwnio n么l. Rhoddodd pedwar o'r dyfarnwyr y rownd i Price, gydag un rownd i fynd.
Ni chafodd Price broblemau i fod ar y blaen yn y rownd derfynol, gyda'r pum dyfarnwr unwaith eto'n penderfynu'n unfrydol mai hi oedd yn fuddugol ac yn cipio'r fedal aur.
Price yw'r trydydd bocsiwr Cymreig i ennill medal bocsio Olympaidd.
Mae hi hefyd wedi chwarae p锚l-droed rhyngwladol dros Gymru ac wedi bod yn bencampwr cic-bocsio'r byd.
Pwy o Gymru sydd wedi ennill medal?
Mae athletwyr o Gymru wedi ennill wyth medal i d卯m Prydain gyda thair o'r rheiny'n fedalau aur.
AUR - Lauren Price (Bocsio)
AUR - Hannah Mills (Hwylio)
AUR - Matt Richards & Calum Jarvis (Nofio)
ARIAN - Elinor Barker (Seiclo)
ARIAN - Lauren Williams (Taekwondo)
ARIAN - Tom Barras (Rhwyfo)
EFYDD - Leak Wilkinson & Sarah Jones (Hoci)
EFYDD - Josh Bugajski & Ollie Wynne-Griffith (Rhwyfo)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2019