Dathlu llwyddiant myfyrwyr ar 么l 'llanast' llynedd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd anrhefn yn dilyn diwrnod canlyniadau'r llynedd wedi i algorithm israddio miloedd o raddau

Mae angen dathlu graddau safon uwch eleni ar 么l "llanast" canlyniadau'r llynedd, yn 么l arweinwyr y sector addysg.

Mae canlyniadau swyddogol safon uwch, AS, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol wedi eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Ond cafodd y rhan fwyaf o ddisgyblion Cymru eu graddau dros dro fis Mehefin.

Roedd disgwyl i ganlyniadau yng Nghymru fod yn uwch na'r canlyniadau cyn y pandemig ar 么l i arholiadau gael eu canslo, gydag athrawon yn gosod y graddau.

Mae osgoi anhrefn canlyniadau'r llynedd yn flaenoriaeth eleni ar 么l i brotestiadau arwain at dro pedol gan wleidyddion a'u gorfodi i gefnu ar y defnydd o algorithm wnaeth israddio miloedd o raddau.

'Ni'n haeddu'r graddau'

Mae Ifan Gwyn o Ruthun wedi treulio'r haf yn gweithio yng ngwesty Portmeirion.

Yn ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd fe astudiodd safon uwch Ffiseg, Mathemateg, Cemeg ac Addysg Gorfforol ac mae'n gobeithio astudio Ffiseg yn y brifysgol yn Llundain.

Dywedodd ei bod hi wedi bod yn flwyddyn "anodd" ond bod gwneud asesiadau wedi bod yn decach.

Ffynhonnell y llun, Ifan Gwyn

Disgrifiad o'r llun, Mae Ifan Gwyn yn bwriadu mynd i'r ysgol er mwyn casglu ei ganlyniadau, er ei fod eisoes wedi derbyn ei raddau dros dro

Ychwanegodd bod ei gyfoedion wedi gorfod addasu cymaint wrth orfod dysgu ar-lein a cholli amser dysgu.

"'Da ni wedi gorfod neud lot o asesiadau ers dod n么l i'r ysgol fis Mawrth a dwi'n meddwl bo' ni'n haeddu'r graddau," meddai.

Mae Ifan yn bwriadu mynd mewn i'r ysgol i gasglu ei ganlyniadau swyddogol.

"Mae'n mynd i fod yn 'chydig o anti-climax, dwi wedi cael fy nghanlyniadau'n barod, ond fydd o'n neis cael y cadarnhad yna o'r diwedd."

'Plant wedi bod drwy lot fawr'

Yn 么l Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae ailadrodd sefyllfa "chwerthinllyd" y llynedd yn annhebygol.

"Gan bod myfyrwyr wedi cael eu graddau dros dro fis Mehefin - maen nhw wedi cael dau neu dri mis i ddod i delerau 芒 nhw a chynllunio eu dyfodol yn unol 芒 hynny.

"Ddylen ni ddim gweld yr ansicrwydd a'r llanast welon ni haf diwethaf oherwydd bod disgyblion wedi cael eu graddau dros dro ymlaen llaw."

Ychwanegodd na ddylai fod gormod o bryder am "chwyddiant" graddau ac y byddai canlyniadau eleni yn cael eu hystyried yr un mor ddilys gan brifysgolion a chyflogwyr.

"Rwy'n credu o ystyried popeth mae'r disgyblion wedi gorfod delio ag e yn sgil Covid - mewn a mas o'r ysgol, hunan-ynysu, colli addysg - rwy'n credu mai'r peth lleiaf gallwn ei ganiat谩u eleni yw ychydig o chwyddiant graddau," meddai.

"Dwi ddim yn gweld hynny'n broblem enfawr. Mae'r plant hyn wedi bod drwy lot fawr."

Ffynhonnell y llun, Shenona Mitra

Disgrifiad o'r llun, Mae Shenona Mitra o Fangor yn gobeithio y bydd ganddi le i astudio meddygaeth yn Llundain

Mae Shenona Mitra, 18 o Fangor, yn dweud ei bod wedi cael blwyddyn "brysur" ac "ansefydlog".

Mae'n dal i deimlo ychydig yn ansicr, meddai, er bod ei graddau dros dro yn awgrymu y bydd ganddi le i astudio meddygaeth yn Llundain ar 么l astudio Bioleg, Cemeg a Mathemateg.

"Dwi dal i fod 'chydig yn bryderus ond dwi'n edrych ymlaen at weld o'r diwedd bod gen i fy lle mewn prifysgol."

Ychwanegodd y byddai'r profiad o gael y canlyniadau swyddogol yn wahanol iawn eleni.

"Gyda TGAU fe aethon ni gyd mewn i'r ysgol, roedd yn beth mawr, ond dwi ddim yn meddwl bod hynny'n mynd i ddigwydd eleni."

'Pwysig dathlu llwyddiant myfyrwyr'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Matt Salmon fod ganddo fwy o hyder yn y system eleni ar 么l "arswyd yr algorithm" y llynedd

Dywedodd dirprwy bennaeth a swyddog undeb fod ysgolion wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau hygrededd y canlyniadau.

"Rwy'n credu mai'r peth pwysig yw dathlu llwyddiant myfyrwyr," meddai Matt Salmon o Ysgol Gyfun Olchfa yn Abertawe.

"Hefyd dyma'r canlyniadau cywir i'r myfyrwyr wedi profiad hynod heriol wrth iddyn nhw astudio am eu TGAU a Safon Uwch."

Dywedodd Mr Salmon, sydd hefyd yn is-lywydd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru, fod ganddo fwy o hyder yn y system eleni ar 么l "arswyd yr algorithm" y llynedd.

"Dydw i ddim yn meddwl bod neb byth eisiau ailadrodd hynny," ychwanegodd.