大象传媒

ONS: Dros 8,000 marwolaeth coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
swabFfynhonnell y llun, Getty Images

Bellach mae dros 8,000 o bobl wedi marw am resymau'n gysylltiedig 芒 Covid-19, yn 么l data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Cafodd 18 o farwolaethau eu cofnodi yn ystadegau wythnosol yr ONS, sy'n cynyddu'r cyfanswm yng Nghymru i 8,002, yn 么l y dull yma o gofnodi.

Mae nifer y marwolaethau wythnosol hefyd yn uwch am y bumed wythnos yn olynol, gyda 34 o'r hyn a elwir yn farwolaethau ychwanegol o'i gymharu 芒'r cyfartaledd.

Mae'r ONS yn cofnodi marwolaethau yn wahanol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ystyried pob achos lle mae Covid-19 yn cael ei nodi ar dystysgrif marwolaeth.

Beth ydy'r ffigyrau dyddiol diweddaraf?

Yn 么l ystadegau dyddiol ICC, mae pum marwolaeth arall yn gysylltiedig 芒 Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru dros y 24-awr diwethaf.

Mae'n dod 芒 chyfanswm y marwolaethau - yn 么l dull Iechyd Cyhoeddus Cymru o gofnodi - i 5,677.

Cadarnhawyd 3,328 o achosion newydd o'r feirws hefyd yn y 48 awr hyd at 09:00 ddydd Sul, gan ddod 芒'r cyfanswm i 281,590.

Mae'r gyfradd achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith diwrnod diwethaf nawr wedi codi i dros 400, gan gynyddu o 386.6 i 408.6

Mae ar ei uchaf yn Abertawe (653.9), Castell-nedd Port Talbot (585.4) a Sir Ddinbych (526.7).

Mae'r cyfraddau isaf ym Sir Fynwy (264.3), Blaenau Gwent (283.4), ac Ynys M么n (288.4) - yr unig siroedd sydd 芒 chyfradd is na 300.

Ni chafodd ystadegau ar gyfer cyfraddau brechu eu rhyddhau heddiw.