大象传媒

Cwmni'n helpu glanhau llygredd llongddrylliad yn yr UDA

  • Cyhoeddwyd
Y Golden Ray ar ei hochrFfynhonnell y llun, Georgia Department of Natural Resources
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Golden Ray ar ei hochr ers dwy flynedd

Mae cwmni o Sir G芒r yn helpu i drin mwd llygredig yng ngweddillion llong gargo wnaeth droi drosodd yn y m么r oddi ar arfordir yr Unol Daleithiau ddwy flynedd yn 么l.

Roedd y Golden Ray yn cludo tua 4,200 o gerbydau pan aeth i drafferthion ger Ynys St Simons oddi ar arfordir Georgia yn fuan ar 么l gadael porthladd Brunswick.

Wrth i'r llong gael ei thorri'n ddarnau er mwyn ei symud, cwmni Hydro Industries o Langennech fydd yn symud a glanhau olew o'r llongddrylliad.

Fe adawodd sawl cynhwysydd llawn offer arbenigol, sydd wedi'i ddatblygu yng Nghymru, y DU am yr Unol Daleithiau ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Georgia Department of Natural Resources

Tua mil o'r cerbydau sydd wedi eu tynnu hyd yma o'r d诺r neu o grombil y llong 656 troedfedd o hyd, sydd wedi ei chofrestru yn Ne Corea.

Gan ei bod mor fawr, rhaid torri'r Golden Ray yn wyth darn, sy'n pwyso 3,720 tunnell fetrig yr un.

Cyn gwneud hynny, cafodd y rhan fwyaf o'r tanwydd ar ei bwrdd ei ddraenio, ond mae yna amcangyfrif bod hyd at 44,000 o alwyni - neu 166,500 o litrau - yn dal ar 么l.

Dywed yr awdurdodau adnoddau naturiol yn Georgia bod "yr effaith i'r amgylchedd yn llai sylweddol nag yr oedden ni wedi'i ofni", gyda gollyngiadau cymharol f芒n o olew wrth dorri'r cysylltiad i linell tanwydd ger ystafell yr injan.

Mwd 'trwchus ac annymunol'

Puro d诺r sydd wedi ei lygru yw arbenigedd cwmni Hydro Industries. Mae wedi helpu i lanhau llygredd ar draws y byd, boed yn sgil y diwydiannau olew a nwy, cloddio neu o longddrylliadau.

Y nod nawr yw ceisio atal "trychineb amgylcheddol" dros 4,000 o filltiroedd i ffwrdd oddi ar arfordir Georgia.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hydro Industries yw un o'r ychydig gwmn茂au ledled y byd all wneud y gwaith, medd Wayne Preece

"Ar y llong yna mae yna fwd gydag olew llygredig," medd prif weithredwr y cwmni, Wayne Preece. "Mae'n eithaf trwchus, yn stwff eithaf annymunol.

"Rydym wedi cael y gwaith o drin tua miliwn o alwyni ohono - ei symud o'r llong, ei drin, dychwelyd d诺r yn ddiogel i'r m么r, ac yna casglu'r olew."

Mae cwmni Hydro wedi delio gyda llongddrylliadau yn Ffrainc, Yr Almaen, Awstralia a Japan ond dyma'r prosiect mwyaf yn ei hanes.

"Ni yw un o'r ychydig gwmn茂au all wneud e," meddai Mr Preece.

Ffynhonnell y llun, Hydro Industries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gweithwyr yn safle Hydro Industries yn Sir G芒r

Fe gymerodd bythefnos i lwytho'r offer ar gyfer y gwaith, sy'n edrych fel bath anferthol, ar hen safle milwrol yn Llangennech.

Mae'r daith fel arfer yn cymryd rhwng pump a chwe wythnos ond bydd Gwylwyr y Glannau'r Unol Daleithiau yn cyflymu'r broses gan hebrwng y llwyth i'r porthladd.

"Bydd yn cyrraedd Atlanta mewn oddeutu tair wythnos a bydd ein t卯m ar awyren yn aros amdano," meddai Mr Preece. "Fe wnawn ni ei ddefnyddio'n syth a bydd yn oddeutu mis o waith."

Ffynhonnell y llun, Hydro Industries
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r broses glanhau'n "glyfar ond syml", medd y peiriannydd amgylcheddol, Caitlin Davies

"Mae'n defnyddio system sy'n caniat谩u i'r olew gael ei wahanu rhag y d诺r," eglurodd un o beirianwyr amgylcheddol Hydro Industries, Caitlin Davies.

"Mae rhoi gwefr alwminiwm ar yr electrodau yn ceulo'r gronynnau llai yn ronynnau mwy.

"Mae'n ateb gwirioneddol glyfar ond syml."

Pynciau cysylltiedig